Napoli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Enwogion: dolen, cat. |
|||
Llinell 17: | Llinell 17: | ||
* [[Statius]] - bardd Rhufeinig |
* [[Statius]] - bardd Rhufeinig |
||
* [[Fabio Cannavaro]] - peldroediwr |
* [[Fabio Cannavaro]] - peldroediwr |
||
* [[Giorgio Napolitano]] |
* [[Giorgio Napolitano]] - arlywydd yr Eidal |
||
Mae'r bardd Rhufeinig [[Fyrsil]] wedi ei gladdu yma. |
Mae'r bardd Rhufeinig [[Fyrsil]] wedi ei gladdu yma. |
Fersiwn yn ôl 15:09, 25 Hydref 2009
Dinas yn ne-orllewin yr Eidal yw Napoli (Neapolitaneg: Nàpule, Saesneg: Naples). Hi yw prifddinas rhanbarth Campania, gyfa phoblogaeth o tua 1 miliwn.
Saif y ddinas ar Fae Napoli, neb fod ymhell o Fynydd Vesuvius. Sefydlwyd hi fel dinas Roegaidd Neapolis (Groeg:"Dinas newydd") tua 600 CC.
Yn ystod ei hanes bu Napoli ym meddiant y Rhufeiniaid, Gothiaid, yr Ymerodraeth Fysantaidd, y Lombardiaid, y Normaniaid ac eraill. Rhwng 1266 a 1861, Napoli oedd prifddinas Teyrnas Napoli, yn ddiweddarach "Y ddwy Sicila". Dynodwyd canol hanesyddol y ddinas yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.
Ymhlith atyniadau niferus y ddinas i dwristiaid, mae'r Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol, lle gellir gweld nifer fawr o eitemau o drefi cyfagos Pompeii a Herculaneum, a ddinistriwyd pan ffrwydrodd Vesuvius yn 79 OC.
Enwogion
- Gian Lorenzo Bernini (1598-1680) - pensaer a cherflunydd
- Enrico Caruso - canwr opera
- Fanny Cerrito - balerina
- Sant Januarius (San Gennaro) - Esgob Napoli a nawdd-sant y ddinas
- Domenico Scarlatti - cyfansoddwr
- Statius - bardd Rhufeinig
- Fabio Cannavaro - peldroediwr
- Giorgio Napolitano - arlywydd yr Eidal
Mae'r bardd Rhufeinig Fyrsil wedi ei gladdu yma.