Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Napoli

Oddi ar Wicipedia
Cerflun o'r dduwies Gwener

Amgueddfa yn Napoli, de'r Eidal yw Amgueddfa Archaeolegol Genedlaethol Napoli (Eidaleg: Museo Archeologico Nazionale di Napoli). Fe'i lleolir yn ardal y Neapolis wreiddiol hynafol. Mae casgliadau'r amgueddfa yn cynnwys casgliad mawr o wrthrychau Rhufeinig o safloedd dinasoedd Rhufeinig Pompeii, Stabiae a Herculaneum, sy'n gorwedd yn agos i Napoli. Dyma un o'r casgliadau gorau o'i fath yn y byd. Ceir eitemau o gyfnod y Groegiaid ac o gyfnod y Dadeni yn ogystal â chasgliad Eifftaidd hefyd.

Cedwir casgliad o gelf erotig o ddinasoedd Pompeii a Herculaneum yn y Cabinet Cudd (il Gabinetto Segreto). Dim ond ers 2005 y mae'r casgliad hwn, a gedwir ar wahân o hyd, yn agor i'w weld gan y cyhoedd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]

Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:


Eginyn erthygl sydd uchod am Yr Eidal. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato