Jalalabad: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Sz-iwbot (sgwrs | cyfraniadau) B robot yn ychwanegu: bpy:জালালাবাদ (বিজনোর) |
B Dadwneud y golygiad 464474 gan Sz-iwbot (Sgwrs | cyfraniadau) |
||
Llinell 25: | Llinell 25: | ||
[[ar:جلال آباد]] |
[[ar:جلال آباد]] |
||
[[ast:Jalalabad]] |
[[ast:Jalalabad]] |
||
[[bpy:জালালাবাদ (বিজনোর)]] |
|||
[[da:Jalalabad]] |
[[da:Jalalabad]] |
||
[[de:Dschalalabad]] |
[[de:Dschalalabad]] |
Fersiwn yn ôl 22:49, 19 Ionawr 2009
- Am y ddinas yn Kyrgyzstan, gweler Jalal-Abad.
- Am y ddinas yn Azerbaijan, gweler Jalilabad.
Mae Jalālābād (Pashto/Perseg: جلال آباد) yn ddinas yn nwyrain Afghanistan. Fe'i lleolir 1,814 troedfedd uwch lefel y môr ger cyflifiad afon Kabul ac afon Kunar, ac mae'n brifddinas talaith Nangarhar. Mae priffordd yn ei chysylltu â Kabul, prifddinas y wlad, 90 milltir i'r gorllewin, a gyda dinas Peshawar ym Mhacistan, tua'r un pellter i'r dwyrain dros Fwlch Khyber. Mae gan Jalalabad boblogaeth o tua 96,000 o bobl (amcangyfrifiad 2002).
Hanes
Yn 630 OC, cyrhaeddodd Xuan Zang, mynach Bwdhaidd a theithiwr enwog o Tsieina, Jalalabad gan tybied ei fod wedi cyrraedd Hindwstan. Sefydlwyd y ddinas bresennol yn 1570 gan Jalal-uddin Mohammad Akbar, trydydd ymerawdwr yr Ymerodraeth Foghul. Roedd yn arosfa pwysig ar yr hen lwybr masnach rhwng Canolbarth Asia ac is-gyfandir India.
Cipiwyd y ddinas a'i hanrheithio gan Dost Muhammad yn 1834. Cafodd ei feddianu gan luoedd Prydeinig yn Rhyfel Cyntaf Afghanistan (1839-1843), dan arweiniad y Cadfridog Robert Sale. Fe'i daliwyd gan Sale a garsiwn bychan yn erbyn ymosodiadau gan filwyr Muhammad Akbar Khan. Fe'i meddianwyd gan filwyr Prydeinig unwaith yn rhagor yn Ail Ryfel Afghanistan (1879-1880) a chodwyd caer yno.[1]
Cafodd Seraj-ul-Emarat, palas brenhinol Amir Habibullah Khan a'r Brenin Amanullah Khan, ei ddinistrio yn 1929. Gyferbyn ceir beddrod y ddau.
Ar hyn o bryd mae corfflu Americanaidd yn Jalalabad.
Cyfeiriadau
- ↑ Imperial Gazeteer of India: Afhganistan and Nepal (Calcutta, 1908; adargraffiad, Delhi Newydd, 1989)