Afon Kunar

Oddi ar Wicipedia
Afon Kunar
Mathafon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKhyber Pakhtunkhwa, Nuristan, Kunar, Nangarhar Edit this on Wikidata
GwladBaner Affganistan Affganistan
Baner Pacistan Pacistan
Uwch y môr534 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau35.9022°N 71.8105°E, 34.4054°N 70.5314°E Edit this on Wikidata
AberAfon Kabul Edit this on Wikidata
LlednentyddAfon Bashgal, Afon Pech Edit this on Wikidata
Dalgylch26,000 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd480 cilometr Edit this on Wikidata
Arllwysiad367 ±0.001 metr ciwbic yr eiliad Edit this on Wikidata
Map

Mae Afon Kunar (Perseg/Pashto: Kunar Rud) yn afon tua 480 km o hyd, a leolir yn nwyrain Affganistan a gogledd-orllewin Pacistan. Mae afon Kunar yn cael ei bwydo gan ddŵr rhewlifau ac eira copaon yr Hindu Kush. Ymuna afon Lutkho ag afon Mastuj fymryn i'r gogledd o dref Chitral ym Mhacistan; ar ôl hynny mae'n cael ei adnabod fel Afon Chitral, cyn llifo yn ei blaen i'r de i ddyfryn Kunar, yn Nuristan, Affganistan, lle y'i gelwir yn Afon Kunar.

Mae afon Kunar yn llifo i afon Kabul fymryn i'r dwyrain o ddinas Jalalabad yn nwyrain Affganistan. Gyda'i gilydd, mae'r dyfroedd yn llifo yn eu blaen fel Afon Kabul i gyfeiriad y dwyrain, heibio Bwlch Khyber i Bacistan, gan ymuno yn afon Indus ger dinas Attock.

Cyn i ddyfrynnoedd Kunar a Chitral gael eu rhannu rhwng Affganistan a Pacistan, roedd glannau afon Kunar yn llwybr masnach pwysig, gan ei bod y ffordd hawsaf i deithio i lawr o fynyddoedd y Pamir i wastadeddau isgyfandir India.