Iago ap Beli: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Cyfeiriadau: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
|||
Llinell 2: | Llinell 2: | ||
==Hanes== |
==Hanes== |
||
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol |
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol roedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis [[Mercia]] a [[Brynaich]], yn cynyddu mewn grym, yn enwedig [[Pybba]] brenin Mercia a'i fab [[Penda]]. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn [[Northumbria]]. Dywedir i [[Edwin]] o deyrnas [[Deifr]] gael lloches gyda Iago yn [[604]] ar ôl cael ei ddiorseddu gan [[Æthelfrith]]. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr [[Caer]] (tua 615) lle lladdwyd [[Selyf ap Cynan]] brenin [[Teyrnas Powys]] a llawer o fynachod o fynachlog [[Bangor Is-y-Coed]]. |
||
Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymeryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair ''dormitatio'' (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir ''dormitatio'' fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol [[Bangor]]. Dilynwyd ef gan ei fab [[Cadfan ap Iago]]. |

Fersiwn yn ôl 16:36, 18 Tachwedd 2017
Roedd Iago ap Beli (560? - 615) (Lladin : Iacobus) yn frenin Gwynedd.
Hanes
Nid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol roedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis Mercia a Brynaich, yn cynyddu mewn grym, yn enwedig Pybba brenin Mercia a'i fab Penda. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn Northumbria. Dywedir i Edwin o deyrnas Deifr gael lloches gyda Iago yn 604 ar ôl cael ei ddiorseddu gan Æthelfrith. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr Caer (tua 615) lle lladdwyd Selyf ap Cynan brenin Teyrnas Powys a llawer o fynachod o fynachlog Bangor Is-y-Coed.
Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymeryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair dormitatio (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir dormitatio fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol Bangor. Dilynwyd ef gan ei fab Cadfan ap Iago.
Cyfeiriadau
J.E. Lloyd (1911) A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co,)
O'i flaen : Beli ap Rhun |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Cadfan ap Iago |