William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Llinell 65: | Llinell 65: | ||
*Kathryn Jenkins, ''Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth'' (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011) |
*Kathryn Jenkins, ''Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth'' (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011) |
||
*Glyn Tegai Hughes, ''<nowiki/>'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn'' (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017) |
*Glyn Tegai Hughes, ''<nowiki/>'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn'' (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017) |
||
*H. A. Hodges, ''Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn'' (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)[[Delwedd:Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (llyfr).jpg|bawd|chwith|unionsyth|''Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn'' gan Derec Llwyd Morgan; 1991]]. |
*H. A. Hodges, ''Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn'' (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017) |
||
* |
|||
*[[Delwedd:Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (llyfr).jpg|bawd|chwith|unionsyth|''Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn'' gan Derec Llwyd Morgan; 1991]]. |
|||
*Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol ''Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn'' gan [[Derec Llwyd Morgan]] (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991). |
*Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol ''Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn'' gan [[Derec Llwyd Morgan]] (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991). |
||
Llinell 71: | Llinell 73: | ||
*[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=williamspantycelynnlwms77a&L=1 Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] |
*[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=williamspantycelynnlwms77a&L=1 Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] |
||
* William Williams yn [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-WIL-1717.html [[Y Bywgraffiadur Cymreig]]] |
* William Williams yn [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-WIL-1717.html [[Y Bywgraffiadur Cymreig]]] |
||
*Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, ''Williams Pantycelyn'' (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) [http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781783169627&tsid=3> ar wefan Gwales]</nowiki>{{cyfeiriadau}}Cyhoeddwyd recordiadau o ddarlithiau ar Williams Pantycelyn a'i gefndir gan Goronwy Prys Owen ac E. Wyn James, a draddodwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar 4 Chwefror 2017, gan Utgorn Cymru. []https://uwchgwyrfai.cymru/?page_id=1134<nowiki/>{{comin|Category:William Williams (Pantycelyn)|William Williams (Pantycelyn)}} |
*Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, ''Williams Pantycelyn'' (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) [http://www.gwales.com/bibliographic/?isbn=9781783169627&tsid=3> ar wefan Gwales]</nowiki>{{cyfeiriadau}}Cyhoeddwyd recordiadau o ddarlithiau ar Williams Pantycelyn a'i gefndir gan Goronwy Prys Owen ac E. Wyn James, a draddodwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar 4 Chwefror 2017, ar ffurf cryno-ddisgiau gan Utgorn Cymru. []https://uwchgwyrfai.cymru/?page_id=1134]<nowiki/>{{comin|Category:William Williams (Pantycelyn)|William Williams (Pantycelyn)}} |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
{{Rheoli awdurdod}} |
Fersiwn yn ôl 21:10, 19 Hydref 2017
William Williams, Pantycelyn | |
---|---|
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol, llenor |
Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (tua 11 Chwefror 1717 – 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.
Ei fywyd
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
Ei waith
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau Bread of Heaven, feed me now and evermore, ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Llyfryddiaeth
Llyfrau Pantycelyn
- Aleluia (1742-49)
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
- Gloria in Excelsis (1771-72)
- Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
- Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
- Crododil Afon yr Aifft (1767)
- Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
- Drws y Society Profiad (1777)
- Cyfarwyddwr Priodas (1777)
Astudiaethau
- Kathryn Jenkins, Cân y Ffydd: Ysgrifau ar Emynyddiaeth (Cymdeithas Emynau Cymru, 2011)
- Glyn Tegai Hughes, 'Yr Hen Bant': Ysgrifau ar Williams Pantycelyn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
- H. A. Hodges, Flame in the Mountains: Williams Pantycelyn, Ann Griffiths and the Welsh Hymn (Tal-y-bont: Y Lolfa, 2017)
- .
- Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn y gyfrol Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn gan Derec Llwyd Morgan (gol.), (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991).
Dolen allanol
- Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- William Williams yn Y Bywgraffiadur Cymreig
- Adolygiad gan E. Wyn James ar gyfrol ddylanwadol Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927; argraffiad newydd gyda rhagymadrodd sylweddol gan D. Densil Morgan, 2016) > ar wefan Gwales</nowiki>
Cyhoeddwyd recordiadau o ddarlithiau ar Williams Pantycelyn a'i gefndir gan Goronwy Prys Owen ac E. Wyn James, a draddodwyd yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai ar 4 Chwefror 2017, ar ffurf cryno-ddisgiau gan Utgorn Cymru. []https://uwchgwyrfai.cymru/?page_id=1134]