Bywyd a Marwolaeth Theomemphus

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Cerdd ddramataidd gan William Williams (Pantycelyn) yw Bywyd a Marwolaeth Theomemphus, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf yn 1764. Ystyr yr enw Lladin Theomemphus yw "Ymofynnwr Duw." Mae'n gerdd hir o dros 6,000 o linellau sy'n olrhain pererindod ysbrydol dyn i'w droedigaeth yn Gristion ac mae i'w deall yng nghyd-destun y Diwygiad Methodistaidd yn 18g.[1]

Cynllun[golygu | golygu cod y dudalen]

Mae'r gerdd yn agor gyda Theomemphus yn ddyn ifanc rhyfygus sy'n arwain bywyd pechadurus. Mae'n sylweddoli ei bechod, yn ceisio ac yn derbyn maddeuant, ac wedyn yn gwrthgilio oherwydd temtasiwn y ferch 'Philomela' (sy'n cynrychioli pleserau'r byd) cyn "dychwelyd" ac aros yn ffyddlon hyd ei ddiwedd er gwaethaf lu o orthrymderau.[1]

Barn ysgolheigion[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Saunders Lewis yn ei lyfr ar Bantycelyn, mae'r gerdd hon yn dangos pa mor "ryfeddol o ddieithr" oedd y defnydd a wnaeth Pantycelyn o farddoniaeth.[2] Ym marn yr hanesydd llenyddiaeth Thomas Parry, yn y gerdd mae Pantycelyn yn "ei brofi ei hun yn sylwedydd craff a chywir ar symudiadau'r meddwl dynol." Ond mae'n ychwanegu hefyd "bod mesur rhigymaidd Theomemphus yn flinderus ac undonog."[3]

Dylanwad[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd Theomemphus yn llyfr pur boblogaidd yn ail hanner 18g a'r 19eg ganrif, yn enwedig gyda Ymneilltuwyr. Cafwyd sawl argraffiad newydd.

Ysgrifenodd Dafydd Rowlands y nofel arbrofol Mae Theomemphus yn Hen (1977); mae'r teitl yn adlais o gerdd Pantycelyn.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. 1.0 1.1 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).
  2. Saunders Lewis, Williams Pantycelyn (1927).
  3. Thomas Parry, Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1944).