Tywysogaeth Catalwnia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B Symudodd Ham II y dudalen Tywysogaeth Catalonia i Tywysogaeth Catalwnia: gweler e.e. Catalwnia |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
:''Mae'r erthygl yma yn trafod Tywysogaeth hanesyddol Catalwnia. Am y gynuned ymreolaethol bresennol, gweler [[Catalwnia]].'' |
:''Mae'r erthygl yma yn trafod Tywysogaeth hanesyddol Catalwnia. Am y gynuned ymreolaethol bresennol, gweler [[Catalwnia]].'' |
||
[[Delwedd:Flag of Catalonia.svg| |
[[Delwedd:Flag of Catalonia.svg|bawd|220px|Baner Catalwnia]] |
||
'''Tywysogaeth Catalwnia''' ([[Catalaneg]]: ''Principat de Catalunya''; [[Sbaeneg]]: ''Principado de Cataluña'') yw tiriogaeth hanesyddol Catalwnia, y rhan fwyaf yn yr hyn sy'n awr yn ogledd-ddwyrain [[Sbaen]] ond gyda rhan hefyd yn ne [[Ffrainc]]. |

Golygiad diweddaraf yn ôl 03:54, 4 Ionawr 2017
- Mae'r erthygl yma yn trafod Tywysogaeth hanesyddol Catalwnia. Am y gynuned ymreolaethol bresennol, gweler Catalwnia.
Tywysogaeth Catalwnia (Catalaneg: Principat de Catalunya; Sbaeneg: Principado de Cataluña) yw tiriogaeth hanesyddol Catalwnia, y rhan fwyaf yn yr hyn sy'n awr yn ogledd-ddwyrain Sbaen ond gyda rhan hefyd yn ne Ffrainc.
Wedi diwedd y cyfnod Rhufeinig, gorchfygwyd y tiriogaethau hyn gan y Fisigothiaid, yna am gyfnod gan fyddinoedd Mwslimiaid al-Andalus. Wedi i'r Mwslimiaid gael eu gorchfygu gan Siarl Martel ym Mrwydr Tours yn 732, concrwyd y tiriogaethau yng ngogledd Catalwnia gan y Ffranciaid, a ffurfiodd Siarlymaen y Marca Hispanica, nifer o wladwriaethau bychain neu siroedd rhwng ymerodraeth y Ffranciaid ac al-Andalus. Roedd y rhain dan reolaeth Cownt Barcelona. Yn 987, gwrthododd Cownt Barcelona gydnabod y frenhinllin newydd ym mherson Hugh Capet, brenin Ffrainc, a daeth y Marca yn annibynnol ar y Ffranciaid i bob pwrpas. Yn 1137, daeth y dywysogaeth yn rhan o Goron Aragon, pan briododd Ramon Berenguer IV, Cownt Barcelona, a Petronila o Aragón.