Alpes Maritimae: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Addbot (sgwrs | cyfraniadau) B Bot: Migrating 30 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q309270 (translate me) |
|||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:REmpire Alpes Maritimae.png| |
[[Delwedd:REmpire Alpes Maritimae.png|bawd|dde|300px|Talaith Alpes Maritimae]] |
||
Roedd '''Alpes Maritimae''' yn dalaith o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Hi oedd y mwyaf deheuol o'r tair talaith fechan yn ardal yr [[Alpau]] rhwng [[Gâl]] a'r [[Eidal]]. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a [[Gallia Narbonensis]], gyda talaith [[Italia (talaith Rufeinig)|Italia]] i'r dwyrain ac [[Alpes Cottiae]] i'r gogledd. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd ''Cemenelum'', heddiw Cimiez sy'n rhan o ddinas [[Nice]], [[Ffrainc]]. |
Roedd '''Alpes Maritimae''' yn dalaith o'r [[Ymerodraeth Rufeinig]]. Hi oedd y mwyaf deheuol o'r tair talaith fechan yn ardal yr [[Alpau]] rhwng [[Gâl]] a'r [[Eidal]]. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a [[Gallia Narbonensis]], gyda talaith [[Italia (talaith Rufeinig)|Italia]] i'r dwyrain ac [[Alpes Cottiae]] i'r gogledd. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd ''Cemenelum'', heddiw Cimiez sy'n rhan o ddinas [[Nice]], [[Ffrainc]]. |
Fersiwn yn ôl 03:42, 4 Ionawr 2017
Roedd Alpes Maritimae yn dalaith o'r Ymerodraeth Rufeinig. Hi oedd y mwyaf deheuol o'r tair talaith fechan yn ardal yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal. Yn y gorllewin roedd yn ffinio a Gallia Narbonensis, gyda talaith Italia i'r dwyrain ac Alpes Cottiae i'r gogledd. Prifddinas wreiddiol y dalaith oedd Cemenelum, heddiw Cimiez sy'n rhan o ddinas Nice, Ffrainc.
Er ei bod yn dalaith fechan roedd o bwysigrwydd strategol, gan ei bod yn amddiffyn y ffyrdd dros yr Alpau rhwng Gâl a'r Eidal. Hyd y flwyddyn 15 CC yr oedd ym meddiant llwythau y Ligures, ond y flwyddyn honno cychwynnodd yr ymerawdwr Augustus ymgyrch a ddaeth a'r diriogaeth i feddiant Rhufain. Y flwyddyn wedyn, 14 CC, crewyd y dalaith Rufeinig.
Yn y flwyddyn 297, ymestynwyd y dalaith i'r gogledd a symudwyd prifddinas y dalaith i Civitas Ebrodunensium, (Embrun heddiw). Yr oedd dinasoedd eraill y dalaith yn cynnwys Nicaea (Nice) a Portus Herculis Monaeci (Monaco).
Taleithiau'r Ymerodraeth Rufeinig tua 120 OC | |
---|---|
Achaea | Aegyptus | Affrica | Alpes Cottiae | Alpes Maritimae | Alpes Poenninae | Arabia Petraea | Armenia Inferior | Asia | Assyria | Bithynia | Britannia | Cappadocia | Cilicia | Commagene | Corsica et Sardinia | Creta et Cyrenaica | Cyprus | Dacia | Dalmatia | Epirus | Galatia | Gallia Aquitania | Gallia Belgica | Gallia Lugdunensis | Gallia Narbonensis | Germania Inferior | Germania Superior | Hispania Baetica | Hispania Lusitania | Hispania Tarraconensis | Italia | Iudaea | Lycaonia | Lycia | Macedonia | Mauretania Caesariensis | Mauretania Tingitana | Moesia | Noricum | Numidia | Osroene | Pannonia | Pamphylia | Pisidia | Pontus | Raetia | Sicilia | Sophene | Syria | Thracia |