Canu Heledd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
tacluso, categoriau |
Heledd ferch Cyndrwyn |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r [[9fed ganrif|9fed]] neu'r [[10fed ganrif]] yw '''Canu Heledd'''. Y siaradwr yn yr englynion yw [[Heledd]], chwaer [[Cynddylan]], brenin rhan ddwyreiniol [[Teyrnas Powys]] yn y [[7fed ganrif]].<ref>Ifor Williams (gol.) ''Canu Llywarch Hen'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935).</ref> |
Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r [[9fed ganrif|9fed]] neu'r [[10fed ganrif]] yw '''Canu Heledd'''. Y siaradwr yn yr englynion yw [[Heledd ferch Cyndrwyn]], chwaer [[Cynddylan]], brenin rhan ddwyreiniol [[Teyrnas Powys]] yn y [[7fed ganrif]].<ref>Ifor Williams (gol.) ''Canu Llywarch Hen'' (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935).</ref> |
||
==Cerddi== |
==Cerddi== |
Fersiwn yn ôl 09:35, 17 Ebrill 2016
Cyfres o englynion saga yn dyddio o'r 9fed neu'r 10fed ganrif yw Canu Heledd. Y siaradwr yn yr englynion yw Heledd ferch Cyndrwyn, chwaer Cynddylan, brenin rhan ddwyreiniol Teyrnas Powys yn y 7fed ganrif.[1]
Cerddi
Mae Cynddylan, a gysylltir Cynddylan a llys Pengwern, wedi ei ladd (wrth frwydro yn erbyn yr Eingl-Sacsoniaid yn ôl pob tebyg), a'i lys yn wag a thywyll. Crwydra Heledd gan alaru:
- Stauell gyndylan ys tywyll heno,
- heb dan, heb wely.
- wylaf wers; tawaf wedy.[2]
Disgrifia ddau eryr, eryr Eli ac Eryr Pengwern, yn bwydo ar gyrff y lladedigion:
- Eryr penngwern pengarn llwyt [heno]
- aruchel y adaf,
- eidic am gic a garaf.[3]
Trawiadol hefyd yw'r dilyniant englynion adnabyddus am Y Dref Wen (lleoliad ansicr). Mae rhyfel wedi torri ar dangnefedd y lle:
- Y dref wenn yn y dyffrynt,
- Llawen y bydeir wrth gyuamrud kat;
- Y gwerin neur derynt.[4]
- Y dref wen yn y dyffryn,
- llawen y byddeir ('adar ysglyfaethus'?) wrth gyfanrudd cad;
- Ei gwerin neur derynt (bu darfu am ei gwŷr).
Ysgolheictod a llenyddiaeth
Cyhoeddwyd yr argraffiad safonol o'r farddoniaeth yma gan Syr Ifor Williams yn 1935 yn y gyfrol Canu Llywarch Hen. Yn 1990 cyhoeddodd Jenny Rowland olygiad gyda rhagymadrodd, astudiaeth a nodiadau Saesneg, sef Early Welsh Saga Poetry.
Mae'r nofelwraig Rhiannon Davies-Jones wedi ysgrifennu nofel am hanes Cynddylan, Heledd a Pengwern, o'r enw Eryr Pengwern. Ceir adlais bwriadol yn nheitl y nofel Tywyll Heno gan Kate Roberts.
Llyfryddiaeth
- Ifor Williams (gol.) Canu Llywarch Hen: gyda rhagymadrodd a nodiadau (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1935)
- Jenny Rowland (gol.), Early Welsh Saga Poetry (Caerdydd, 1990)
- Marged Haycock, 'Hanes Heledd hyd Yma', yn Gweledigaethau: Cyfrol Deyrnged i Gwyn Thomas, gol. Jason Walford Davies (Gwasg Barddas, Abertawe, 2007)