Y Dref Wen

Oddi ar Wicipedia
Erthygl am y dref dradoddiadol yw hon. Gweler hefyd Dref Wen (gwahaniaethu).

Lleoliad y cyfeirir ati mewn cerdd Gymraeg gynnar sy'n rhan o'r dilyniant o englynion a adnabyddir heddiw fel 'Canu Heledd' yw Y Dref Wen. Priodolir y cerddi hynny i'r dywysoges Heledd, chwaer Cynddylan (bu farw tua 655 efallai), arglwydd Pengwern.

Mae'n bosibl mai un o drefi cynnar Teyrnas Powys oedd y Dref Wen, ond gall mai disgrifiad yw "y dref wen" yn hytrach nag enw lle. Yn y pum pennill sy'n ei disgrifio, mae'r Dref Wen yn lle tawel yng nghefn gwlad sy'n dilyn rhawd y tymhorau amaethyddol. Ond ar ôl goresgyn dwyrain yr hen Bowys (yn fras: ardal Swydd Amwythig heddiw) gan Mersia mae rhyfel wedi torri ar dangnefedd y lle:

Y dref wenn yn y dyffrynt,
Llawen y bydeir wrth gyuamrud kat;
Y gwerin neur derynt.

Y dref wen yn y dyffryn,
llawen y byddeir ('adar ysglyfaethus'?) wrth gyfanrudd cad;
Ei gwerin neur derynt (bu darfu am ei gwŷr).

Galwai'r Gogynfeirdd bentref Whittington, ger Croesoswallt, Swydd Amwythig, 'Y Dre Wen', ond mae'r uniaethiad yn gyfeiliornus, gan fod yr enw lle Saesneg 'Whittington' yn tarddu mewn gwirionedd o enw Eingl-Sacsoneg sy'n golygu "Hwita's town" (mae 'Hwita' yn enw personol), yn hytrach na "white town".

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  • Canu Llywarch Hen, gol. Ifor Williams (Gwasg Prifysgol Cymru, 1935), tt.215–6, nodyn ar "y dref wen"

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]