Stumog: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Rotlink (sgwrs | cyfraniadau) B fixing dead links |
del |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd: |
[[Delwedd:Digestive system diagram numbered.svg|bawd|dde|300px|{{Y system dreulio}}]] |
||
[[Delwedd:Gastrointestinal tract dim iaith.jpg|bawd|de|400px|1– stumog; 2– [[coluddyn mawr]] (colon); 3– [[coluddyn bach]]; 4– [[rectwm]]; 5– [[anws]]; 6– [[cwlwm y coledd]]; 7– [[y coluddyn dall|coluddyn dall]] (caecwm)]] |
|||
[[Organ (bioleg)|Organ]] ar ffurf bag o [[cyhyr|gyhyrau]] ydy'r '''stumog''', ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o [[mamal|famaliaid]]. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r [[system dreulio]]. Daw o'r gair Lladin ''stomachus'' (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder".<ref>[http://www.etymonline.com/index.php?search=stomach&searchmode=none] Online Etymological Dictionary {{eicon en}}</ref> |
[[Organ (bioleg)|Organ]] ar ffurf bag o [[cyhyr|gyhyrau]] ydy'r '''stumog''', ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o [[mamal|famaliaid]]. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r [[system dreulio]]. Daw o'r gair Lladin ''stomachus'' (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder".<ref>[http://www.etymonline.com/index.php?search=stomach&searchmode=none] Online Etymological Dictionary {{eicon en}}</ref> |
||
Fersiwn yn ôl 14:52, 25 Mawrth 2016
1: Y geg 2: Taflod 3: Tafod bach 4: Tafod 5: Dannedd 6: Chwarennau poer 7: Isdafodol 8: Isfandiblaidd 9: Parotid 10: Argeg (ffaryncs) 11: Sefnig (esoffagws) 12: Iau (Afu) 13: Coden fustl 14: Prif ddwythell y bustl 15: Stumog | 16: Cefndedyn (pancreas) 17: Dwythell bancreatig 18: Coluddyn bach 19: Dwodenwm 20: Coluddyn gwag (jejwnwm) 21: Glasgoluddyn (ilëwm) 22: Coluddyn crog 23: Coluddyn mawr 24: Colon trawslin 25: Colon esgynnol 26: Coluddyn dall (caecwm) 27: Colon disgynnol 28: Colon crwm 29: Rhefr: rectwm 30: Rhefr: anws |
Organ ar ffurf bag o gyhyrau ydy'r stumog, ac fe'i ceir yn y rhan fwyaf o famaliaid. Organ sy'n dal bwyd a'i dreulio'n rhannol fel rhan o'r system dreulio. Daw o'r gair Lladin stomachus (Groeg - στόμαχος), sy'n golygu "stumog", "gwddf" neu "falchder".[1]
Bydd yr erthygl hon yn canolbwyntio'n bennaf ar stumogau dynol, er bod cryn debygrwydd rhyngddo â'r rhan fwyaf o anifeiliaid,[2] ar wahân i'r fuwch sy'n hollol wahanol.[3]
Ei bwrpas
Mae tri phrif bwrpas i'r stumog: lladd bacteria, torri'r darnau bwyd yn ddarnau llai er mwyn cael mwy o arwynebedd a chynnal y bwyd am oriau a'i ollwng yn araf ac yn gyson. Ceir hylif asidig cryf ynddo i wneud y gwaith hwn, asid hydroclorig ydy hwnnw gyda pH o rhwng 1 a 2 - yn dibynnu ar ffactorau megis pa ran o'r diwrnod ydyw, y swm o fwyd a fwytawyd, cynnwys arall megis cyffuriau a ffactorau eraill. Yn yr hylif hwn y torrir y moleciwlau mawr yn rhai llai, fel y rhan gyntaf o'r broses dreulio - cyn gwthio'r bwyd i'r cam nesaf sef y coluddyn bach. Mae'r stumog ddynol yn creu rhwng 2.2 a 3 litr o'r asid gastrig hwn y dydd. Mae mwy ohono'n cael ei greu fin nos nac yn y bore. Gall y stumog ddal rhwng 2 a 4 litr o fwyd, gan ymestyn pan fo raid.
Cyfeiriadau