Sgwrs:Stumog

Ni chefnogir cynnwys y dudalen mewn ieithoedd eraill.
Oddi ar Wicipedia

Bol/boly/bola[golygu cod]

Anatiomaros. Gwelaf dy fod wedi ailgyfeirio 'Bol' at 'Stumog'. Dwi'n meddwl mai'r coluddiol (Mawr a Bach) ydy Bol, ac affliw o ddim i'w wneud â'r Stumog. Does gen i ddim amser heno i chwilio a chwalu am chwaneg o wybodaeth, ond mi dria i yn y dyddiau nesaf. Llywelyn2000

Llywelyn, rwan rwyt ti'n sôn amdano dwi'n meddwl dy fod yn iawn. Golygu ar garlam oeddwn i, gweld ystumog yn ddolen goch ac wedyn meddwl "Ia, a bol hefyd"! Fel yn achos belly a stomach yn S. mae'n hawdd cymysgu rhwng y ddau ("Belly, stomach" sy gan y Geiriadur Mawr...). Croeso i ti ddadnweud fy smonach - gwell dileu bol yn gyntaf neu fydd o ddim yn cyfri fel erthygl newydd.
ON Vive l'Algérie - tipyn o boen yn y bol i Loegr oedd styfnigrwydd a dawn Llwynogod yr Anialdir heno, mae'n siwr! Anatiomaros 23:34, 18 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Diolch gyfaill. A rhoi Rwni (!) yn y bola crwyn! Llywelyn2000 22:43, 19 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]
Syniad da - falla basa'n gwneud daioni iddo! Anatiomaros 22:52, 19 Mehefin 2010 (UTC)[ateb]