William Williams, Pantycelyn: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
B →Dolen allanol: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
→Dolen allanol: Bywgraffiadur |
||
Llinell 66: | Llinell 66: | ||
==Dolen allanol== |
==Dolen allanol== |
||
*[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=williamspantycelynnlwms77a&L=1 Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] |
*[http://www.llgc.org.uk/index.php?id=williamspantycelynnlwms77a&L=1 Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol], [[Llyfrgell Genedlaethol Cymru]] |
||
* William Williams yn [http://yba.llgc.org.uk/cy/c-WILL-WIL-1717.html Y Bywgraffiadur Cymreig] |
|||
{{comin|Category:William Williams (Pantycelyn)|William Williams (Pantycelyn)}} |
{{comin|Category:William Williams (Pantycelyn)|William Williams (Pantycelyn)}} |
Fersiwn yn ôl 17:04, 6 Hydref 2015
William Williams, Pantycelyn | |
---|---|
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol, llenor |
Bardd, emynydd ac awdur rhyddiaith grefyddol oedd William Williams (1717 - 11 Ionawr 1791), neu (Williams) Pantycelyn. Roedd yn frodor o blwyf Llanfair-ar-y-bryn, Sir Gaerfyrddin. Mae'n cael ei adnabod fel "Pantycelyn" ar ôl enw y ffermdy y bu'n byw ynddo, yn y bryniau ger Pentre Tŷ-gwyn.
Ei fywyd
Cafodd droedigaeth wrth wrando ar Howel Harris yn pregethu yn Nhalgarth yn 1737. Er iddo fod yn gurad i Theophilus Evans am gyfnod, gwrthodwyd ei urddo yn offeiriad yn Eglwys Loegr yn 1743 oherwydd ei gysylltiadau â'r Methodistiaid. Ar ôl hynny canolbwyntiodd ar weithio dros y mudiad Methodistaidd. Roedd yn bregethwr teithiol a daeth yn enwog am ei allu arbennig i arwain seiadau. Ef ynghyd â Daniel Rowland a Howel Harris oedd prif arweinwyr y Methodistiaid yng Nghymru yn y ddeunawfed ganrif. Trwy ei emynau, yn enwedig, ef yw un o'r dylanwadau pwysicaf ar y diwylliant Cymraeg yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif. Saif Capel Coffa William Williams Pantycelyn yn Llanymddyfri. Claddwyd ef yn Eglwys Llanfair-ar-y-bryn ar gyrion tref Llanymddyfri.
Ei waith
Roedd yn awdur toreithiog yn y Gymraeg. Ei enw barddol oedd "Pantycelyn" ond fe'i adnabyddir hefyd fel "Y Pêr Ganiedydd" oherwydd dwysder a melysder ei ganu. Ysgrifennodd rai emynau Saesneg. Mae ei emyn, Guide me, O thou great Jehovah (sy'n cynnwys y geiriau 'Bread of Heaven, feed me now and evermore', ac a genir fel arfer ar yr emyn-dôn Cwm Rhondda) yn parhau yn hynod boblogaidd yn fyd-eang.
Llyfryddiaeth
Llyfrau Pantycelyn
- Aleluia (1742-49)
- Caniadau y rhai sydd ar y Môr o Wydr (1762)
- Ffarwel Weledig, Groesaw Anweledig Bethau (1763-69)
- Gloria in Excelsis (1771-72)
- Golwg ar Deyrnas Crist (1756)
- Bywyd a Marwolaeth Theomemphus (1764)
- Pantheologia, neu hanes holl grefyddau'r byd (1762)
- Crododil Afon yr Aifft (1767)
- Hanes Bywyd a Marwolaeth Tri Wyr o Sodom a'r Aifft (1768)
- Drws y Society Profiad (1777)
- Cyfarwyddwr Priodas (1777)
Astudiaethau
Ceir llyfryddiaeth lawn o weithiau gan Bantycelyn ac amdano yn Derec Llwyd Morgan (gol.), Meddwl a Dychymyg Williams Pantycelyn (Llandysul: Gwasg Gomer, 1991)
Dolen allanol
- Llawysgrif o farddoniaeth Pantycelyn ar Y Drych Digidol, Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- William Williams yn Y Bywgraffiadur Cymreig