Carolus Linnaeus: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB
Billinghurst (sgwrs | cyfraniadau)
B remove redundant template, link FA now managed from Wikidata, removed: {{Cyswllt erthygl ddethol|de}} (4) using AWB
Llinell 23: Llinell 23:
Ym [[1755]] fe'i gwnaed yn farchog a newydwyd ei enw i Carl von Linné.
Ym [[1755]] fe'i gwnaed yn farchog a newydwyd ei enw i Carl von Linné.



{{Cyswllt erthygl ddethol|de}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|ia}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|id}}

{{Cyswllt erthygl ddethol|nn}}


{{Rheoli awdurdod}}
{{Rheoli awdurdod}}

Fersiwn yn ôl 15:25, 29 Mai 2015

Carolus Linnaeus
Biolegydd
Geni:
 
23 Mai 1707
   Stenbrohult, Sweden
Marw:
 
10 Ionawr 1778
   Uppsala, Sweden

Biolegydd Swedaidd oedd Carolus Linnaeus (yn hwyrach, Carl von Linné ac yn wreiddiol Carl Linnæus neu Carolus Linnæus yn Swedeg) (23 Mai 170710 Ionawr 1778). Cyflwynodd y system dosbarthiad biolegol a chafodd lawer o ddylanwad ar ecoleg modern.

Fe'i ganwyd yn Stenbrohult mewn ardal Smalandia yn ne Sweden. Roedd ei dad a'i daid yn eglwyswyr ac roedden nhw'n dymuno'r un gwaith i Carolus. Ond roedd ei diddordeb e mewn botaneg a danfonwyd ef i astudio ym Mhrifysgol Lund ac ar ôl blwyddyn aeth ef Brifysgol Uppsala.

Yn ystod ei astudiaethau daeth Linnaeus i'r penderfyniad y dylai dosbarthiad planhigion fod yn seiliedig ar friger a phistil ac ysgrifennodd draethawd bach am ei damcaniaeth. O ganlyniad, enillodd ef swydd fel is-athro Ym 1732 cafodd arian gan Academi'r Gwyddorau (Academy of Sciences) Uppsala i deithio ac astudio brodorion Laplandia, mwynau gwerthfawr, planhigion ac anifeiliaid - mewn tir a oedd bron heb ei gofnodio ar y pryd. Ar ôl hynny cyhoeddodd Flora Laponica ym 1737.

Aeth Linnaeus i'r cyfandir a chyfarfu a Jan Frederik Gronovius yn yr Iseldiroedd. Dangosod iddo ddrafft o'i draethawd am ddosbarthiad biolegol, Systema Naturae, i Gronovius. Roedd y system hon yn defnyddio enwau genws-rhywogaeth byrion a manwl-gywir yn lle enwau hirion traddodiadol, e.e. Physalis angulata yn lle physalis amno ramosissime ramis angulosis glabris foliis dentoserratis. Er iddo ddatblygu'r system hon, sef enwi deuenwol, gan y brodyr Bauhin, roedd Linnaeus yn ehangu ac yn hysbysu'r system ymhellach.

Rhoddodd Linnaeud enwau synhwyrol i'r anifeiliad a'r planhigion. Er enghraifft roedd dyn yn Homo sapiens "dyn call" iddo fe. Ond iddo fe, roedd rhywogaeth dyn arall hefyd: Homo troglodytes, sef "dyn sy'n byw mewn ogof". Roedd hynny yn golygu tsimpansî sydd yn Pan troglodytes heddiw. Rhododd enw i famaliaid hefyd, ar ôl eu chwarennau tethol.

Ym 1739 priododd a Sara Morea, merch i feddyg. Ac ym 1741 cafodd swydd fel athro meddygol ym Mhrifysgol Uppsala, ond symudodd i swydd fel athro botaneg cyn hir. Roedd ei waith ar ddosbarthiad yn parhau gan gynnwys anifeiliaid a mwynau.

Ym 1755 fe'i gwnaed yn farchog a newydwyd ei enw i Carl von Linné.