Thomas Williams, Llanidan: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Ham II (sgwrs | cyfraniadau) B manion |
B →Llyfryddiaeth: 4 gweithred, replaced: {{Authority control}} → {{Rheoli awdurdod}} using AWB |
||
Llinell 10: | Llinell 10: | ||
==Llyfryddiaeth== |
==Llyfryddiaeth== |
||
*J. R. Harris ''The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan'' (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964). |
*J. R. Harris ''The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan'' (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964). |
||
{{Rheoli awdurdod}} |
|||
{{DEFAULTSORT:Williams, Thomas}} |
{{DEFAULTSORT:Williams, Thomas}} |
||
Llinell 18: | Llinell 20: | ||
[[Categori:Marwolaethau 1802]] |
[[Categori:Marwolaethau 1802]] |
||
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]] |
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]] |
||
{{Authority control}} |
Fersiwn yn ôl 07:31, 26 Ebrill 2015
Roedd Thomas Williams, Llanidan (13 Mai 1737 – 30 Tachwedd 1802) yn un o ddiwydiannwyr amlycaf y 18fed ganrif.
Roedd Thomas Williams yn fab i Owen Williams, Cefn Coch, Llansadwrn, Ynys Môn. Daeth yn gyfreithiwr, a bu'n cynrychioli teulu Hughes, Llysdulas, yn eu hachos yn erbyn Syr Nicholas Bayly o Blas Newydd ynghylch perchenogaeth gwaith copr Mynydd Parys ger Amlwch. Parhaodd yr achos yma am tua naw mlynedd, ac ni setlwyd y mater hyd 1778.
O gwmpas 1785 daeth yn brif reolwr Mynydd Parys, oedd erbyn hynny ym mherchenogaeth Iarll Uxbridge a Hughesiaid Llysdulas. Tyfodd y gwaith yn fawr dan ei reolaeth ef, a gallodd nid yn unig gynyddu cynhyrchiad copr ond hefyd sefydlu nifer o ddiwydiannau eraill cysylltiedig a'r diwydiant copr. Rhwng 1787 a 1792 bu yn rheoli'r Cornish Metal Company, oedd yn golygu ei fod yn rheoli bron y cyfan o ddiwydiant copr Prydain. Erbyn tua 1800 dywedid bod tua hanner diwydiant copr y byd yn ei ddwylo ef. Roedd yn boblogaidd gyda'r gweithwyr, a'i galwai'n "Twm Chwarae Teg", oherwydd ei ddull gonest o drin ei weithwyr ac o fasnachu, ond roedd yn llai poblogaidd gyda'i gystadleuwyr mewn busnes.
Daeth yn Aelod Seneddol dros Great Marlow yn Lloegr yn 1790. a chadwodd y sedd hyd ei farwolaeth. Dywedir mai ef oedd y gŵr cyfoethocaf yng Nghymru erbyn hynny.
Llyfryddiaeth
- J. R. Harris The Copper King: A biography of Thomas Williams of Llanidan (Gwasg Prifysgol Lerpwl, 1964).