C.P.D. Y Seintiau Newydd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Paul-L (sgwrs | cyfraniadau) BDim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 12: | Llinell 12: | ||
| tymor = 2006-07 |
| tymor = 2006-07 |
||
| safle = 1af |
| safle = 1af |
||
| pattern_la1=|pattern_b1=|pattern_ra1= |
| pattern_la1=_green hoops|pattern_b1=_whitehoops|pattern_ra1=_green hoops| |
||
| leftarm1= |
| leftarm1=FFFFFF|body1=008000|rightarm1=FFFFFF|shorts1=FFFFFF|socks1=FFFFFF| |
||
| pattern_la2=|pattern_b2=|pattern_ra2= |
| pattern_la2=|pattern_b2=|pattern_ra2= |
||
| leftarm2= |
| leftarm2=0000AA|body2=0000AA|rightarm2=0000AA|shorts2=0000AA|socks2=0000AA| |
||
}} |
}} |
||
Fersiwn yn ôl 23:33, 24 Mehefin 2007
Enw llawn | Clwb Pêl-droed Y Seintiau Newydd | ||
---|---|---|---|
Llysenw(au) | Y Seintiau | ||
Sefydlwyd |
1860 (Croesoswallt) 1959 (Llansantffraid) | ||
Maes | Y Dreflan, Llansantffraid, Powys | ||
Cadeirydd | Edgar Jones | ||
Rheolwr | Ken McKenna | ||
Cynghrair | Cynghrair Cymru | ||
2006-07 | 1af | ||
|
Mae Clwb Pêl-droed y Seintiau Newydd (Saesneg: The New Saints Football Club) (yn aml adnabyddir fel TNS) yn glwb Pêl-droed sy'n cynyrchioli Llansantffraid-ym-Mechain yng Nghymru, a Chroesoswallt yn Lloegr (Dim ond 8 milltir sydd rhwng y ddau). Maent yn chwarae yn Uwchgynghrair Principality Cymru. O 1997 i 2006, enw'r clwb oedd Total Network Solutions, ar ol cwmni perchennog a phrif noddwr y clwb, Mike Harris.
Fe ffurfwyd y clwb yn 1959 fel Llansantffraid FC. Ar ol sawl degawd yn chwarae Peldroed lleol yn sir Drefaldwyn, cyn symud ymlaen i'r Cymru Alliance yn y 90'au cynnar a dyrchafiad i'r Uwchgynghrair newydd yn 1992/93. Yn 1996 fe enillodd y clwb Gwpan Cymru, gan drechu y Bari ar giciau o'r smotyn, felly'n cyrraedd Cwpan enillwyr Cwpannau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. Tua'r amser yma ddoth Mike Harris a'i gwmni fewn gyda cytundeb £250,000 a oedd yn cynnwys newid enw'r clwb i Total Network Solutions. Yn Ewrop, chwarae yn erbyn Ruch Chorzow fu eu tynged ac fe gafon nhw ganlyniad calonogol iawn o gem gyfartal 1-1 ar Gae Ras Wrecsam, cyn colli 5-0 allan yng Ngwlad Pwyl. Ers hynny mae'r clwb wedi chwarae'n Ewrop sawl gwaith, yn sgil eu llwyddiannau yn y Cynghrair a Chwpan Cymru. Mae hyn yn rhannol oherwydd ers 1997 maent wedi bod yn dim Proffesiynol, gyda staff chwarae llawn-amser.
Gemau Lerpwl
Eu gemau mwyaf enwog yn Ewrop oedd yn 2004-05 pan, ar ol enill y Gynghrair unwaith eto, chwaraeon nhw yn erbyn Lerpwl yn rownd rhagbrofol gyntaf Cynghrair y Pencampwyr, er iddynt chwarae Manchester City yng nghwpan Uefa ddwy flynedd ynghynt. Fe ddoth TNS allan yn llawn clod, gan iddynt golli y ddwy gymal o 3-0 yn unig (6-0 agg), gyda Steven Gerrard yn sgorio 5 o rheiny. Yn yr ail gymal yn Wrecsam fe darodd Steven Beck y postyn, a fe gafodd Marc Lloyd-Williams gol wedi'i wahardd am gam-sefyll. Ar ddiwedd y gemau rheiny, y chwaraewr a ddoth allan gyda'r mwyaf o glod oedd y gol-geidwad Gerard Doherty. Dywedodd rheolwr Lerpwl, Rafael Benitez amdano "The goalkeeper saved a lot of goals and for me he was the best player in the two games"
Llwyddiannau
- Dyrchafiad i'r Uwchgynghrair, 1993
- Enillwyr yr Uwchgynghrair 1999/2000, 2004/05, 2005/06
- Ail safle, 2001/02, 2002/03, 2003/04
- Enillwyr Cwpan Cymru, 1995/96, 2004/05
- Ail yng Nghwpan Cymru, 2000/01, 2003/04
- Cwpan Uwchgynghrair Cymru 1994/95, 2005/06
- Enillwyr 'Welsh Intermediate Cup' 1992/93
- Enillwyr Cynghrair Undebol y Gogledd 1992/93