Hugh Davies: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Legobot (sgwrs | cyfraniadau)
B Bot: Migrating 1 interwiki links, now provided by Wikidata on d:q56170 (translate me)
Llinell 16: Llinell 16:


== Llyfryddiaeth ==
== Llyfryddiaeth ==
*Davies, Hugh (1739 -1821), botanist and Church of England clergyman. [[Oxford Dictionary of National Biography]] 2004
*'Davies, Hugh (1739 -1821), botanist and Church of England clergyman'. [[Oxford Dictionary of National Biography]] 2004
*Thomas Pennant ''British Zoology'' 1766, ''Indian Zoology'' and ''Journey to Snowdon'' 1781.
*Thomas Pennant ''British Zoology'' 1766, ''Indian Zoology'' a ''Journey to Snowdon'' 1781.


{{DEFAULTSORT:Davies, Hugh}}
{{DEFAULTSORT:Davies, Hugh}}
[[Categori:Botanegwyr]]
[[Categori:Botanegwyr Cymreig]]
[[Categori:Gwyddonwyr Cymreig]]
[[Categori:Cymry'r 18fed ganrif]]
[[Categori:Cymry'r 19eg ganrif]]
[[Categori:Genedigaethau 1739]]
[[Categori:Genedigaethau 1739]]
[[Categori:Marwolaethau 1821]]
[[Categori:Marwolaethau 1821]]
[[Categori:Gwyddonwyr]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Pobl o Ynys Môn]]
[[Categori:Aelodau'r Linnean Society , Llundain]]
[[Categori:Alumni Coleg yr Iesu, Rhydychen]]

Fersiwn yn ôl 01:18, 6 Tachwedd 2013

Cofeb Hugh Davies yn Eglwys Beaumaris

Roedd Hugh Davies (3 Ebrill 1739 - 16 Chwefror 1821) yn fotanegwr ac yn offeiriad Eglwys Lloegr. Brodor o Ynys Môn oedd o, ac yn awdur y llyfr Welsh Botanology, y llyfr gwyddonol cyntaf i restru enwau Cymraeg am blanhigion ag y rhai Lladin.

Bywyd

Cafodd ei eni yn Llandyfrydog, Ynys Môn, Cymru, ac yr oedd ei dad yn rheithor Eglwys Tyfrydog, Llandyfrydog. Cafodd ei addysgu yn Ysgol David Hughes ym Meaumaris. Aeth ymlaen i Goleg yr Iesu yn Rhydychen fel ei dad o'i flaen. Graddiodd ym 1757 a daeth yn offeiriad. Wedi ei ordeinio, aeth yn gurad Llangefni (1763–1766), Llanfaes, Penmon (1766–1785) a Phenmynydd (1775–1778). Wedyn yn rheithor Llandegfan a Beaumaris ym 1778, ac wedyn yn rheithor Aber, Sir Gaernarfon ym 1787. Bu farw ym Meaumaris ym 1821 lle y'i claddwyd.

Botaneg

Roedd Hugh Davies yn gyfaill Thomas Pennant ac anfonodd sbesimenau a nodiadau. Aeth i Ynys Manaw ym 1774 gyda Pennant, a dychwelodd i Fanaw y flwyddyn wedyn i astudio planhigion yr ynys. Cyfrannodd yn helaeth i lyfrau Pennant (British Zoology, Indian Zoology a Journey to Snowdon). Cyfrannodd hefyd i lyfr William Hudson Flora Anglica, ac English Botany gan James Sowerby a James Edward Smith, Flora Britannica gan Smith, a'r The Botanist's Guide through England and Wales gan Dawson Turner a'r Cymro Lewis Weston Dillwyn. Etholwyd ef yn Gymrawd y Linnean Society ym 1790, a chyhoeddwyd pedair erthygl yn ei gylchgrawn.

Daeth ei "opus magum" (gwaith gorau) Welsh Botanology ym 1813, a'i astudiaeth o Sir Fôn yn arbennig o werthfawr fel model o Fflora Sir.

Enwyd y genws Daviesia (Leguminosae), ar ei ôl gan Smith ym 1798.

Cyfeiriadau

Llyfryddiaeth