Isabel Allende: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
TjBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: jv:Isabel Allende
Llinell 92: Llinell 92:
[[it:Isabel Allende]]
[[it:Isabel Allende]]
[[ja:イサベル・アジェンデ]]
[[ja:イサベル・アジェンデ]]
[[jv:Isabel Allende]]
[[ko:이사벨 아옌데]]
[[ko:이사벨 아옌데]]
[[la:Isabella Allende]]
[[la:Isabella Allende]]

Fersiwn yn ôl 18:34, 6 Mawrth 2013

Delwedd:Isabel Allende, 1990.jpg
Isabel Allende ym 1990

Mae Isabel Allende Llona (2 August 1942- ) yn awdures o Chile, mae ei gwaith yn ffocysu ar brofiadau menywod ac mae hi'n cymysgu realaeth a dychymyg i greu realaeth hudol (Magical Realism). Erbyn heddiw mae hi'n academydd yn yr UDA ac yn byw yn California. Cafodd Isabel Allende ei genu yn Lima, Peru, am fod ei thad, Tomás Allende; yn Lysgennad Chile i Peru. Cefnder ei thad oedd Salvador Allende, Arlywydd Chile o 1970 i 1973. Yn 1945, symudodd y teulu yn ôl i Santiago, Chile, tan 1953 pan ailbriododd ei mam hi i Ramón Huidobro (diplomydd arall) a symudon nhw i Bolivia, a Beirut tan ddychwelyd i Chile yn 1958.

Priododd Miguel Frías yn 1962, a tan 1965 bu Allende yn gweithio i'r Cenhedloedd Unedig. Cawson nhw ferch yn 1963 a mab yn 1966. Cyflawnodd waith mam, diplomydd a ffigwr byd-enwog dros y ddau ddegawd wedyn. Erbyn 1988, priododd Allende ag American, Willie Gordon. Daeth yn ddinesydd yr UDA yn 2003.

Gwobrau

  • Grand Prix d’Evasion
  • Gwobr Gabriela Mistral (Chile)
  • Gwobr Bancarella (Yr Eidal)
  • Chevalier des Artes et des Lettres

Gwaith

Trosiad i'r Gymraeg

  • Walimai gan Isabel Allende, troswyd gan Dewi Wyn Evans yn Taliesin cyf 121, Gwanwyn 2004


  • Tŷ'r Ysbrydion (1982) La casa de los espíritus
  • Y Ddynes Dew Borslen (1984) La gorda de porcelana
  • Am Gariad a Chysgod (1985) De amor y de sombra
  • Eva Luna (1987)
  • Straeon Eva Luna (1989) Cuentos de Eva Luna
  • Y Cynllun Tragwyddol (1991) El plan infinito
  • Paula (1995)
  • Aphrodite: Cofiant i'r Synhwyrau (1998) Afrodita
  • Merch i Ffortun (1999) Hija de la fortuna
  • Llun Sepia (2000) Retrato en sepia
  • Dinas y Bwystfilod (2002) La ciudad de las bestias
  • Fy Ngwlad Greëdig (2003) Mi país inventado
  • Deyrnas y Ddraig Aur (2004) El reino del Dragón del Oro
  • Zorro (2005) El Zorro
  • Coedwig y Corrachod (2005) El Bosque de los Pigmeos
  • Ines, fy Enaid (2006) Inés del Alma Mía
  • Cyfanswm ein dyddiau (2008) La Suma de los Días
  • "Yr Ynys o dan y Môr" (2009) "La Isla bajo el mar"

Cyfeiriadau

  • Isabel Allende, Award-Winning Latin American Author by Mary Main (2005) - ISBN 0-7660-2488-1
  • Bautista Gutierrez, Gloria and Corrales-Martin, Norma; Pinceledas Literarias Latinoamericanas, John Wiley and Sons, 2004