Ysgol Brynhyfryd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
→Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol: rhestr cynradd |
|||
Llinell 63: | Llinell 63: | ||
*[[Ysgol Clocaenog]] |
*[[Ysgol Clocaenog]] |
||
*[[Ysgol Cyffylliog]] |
*[[Ysgol Cyffylliog]] |
||
⚫ | |||
*[[Ysgol Llanfair (Llanfair Dyffryn Clwyd)|Ysgol Llanfair]], [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] |
*[[Ysgol Llanfair (Llanfair Dyffryn Clwyd)|Ysgol Llanfair]], [[Llanfair Dyffryn Clwyd]] |
||
*[[Ysgol Pen Barras]], [[Rhuthun]] |
*[[Ysgol Pen Barras]], [[Rhuthun]] |
||
Llinell 72: | Llinell 71: | ||
*[[Ysgol Borthyn]], [[Rhuthun]] |
*[[Ysgol Borthyn]], [[Rhuthun]] |
||
*[[Ysgol Bro Famau, Llanferres a Llanarmon|Ysgol Bro Famau]] |
*[[Ysgol Bro Famau, Llanferres a Llanarmon|Ysgol Bro Famau]] |
||
⚫ | |||
*[[Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd|Ysgol Llanbedr]], [[Llanbedr Dyffryn Clwyd]] |
*[[Ysgol Llanbedr Dyffryn Clwyd|Ysgol Llanbedr]], [[Llanbedr Dyffryn Clwyd]] |
||
*[[Ysgol Stryd y Rhos]] |
*[[Ysgol Stryd y Rhos]] |
Fersiwn yn ôl 05:27, 24 Tachwedd 2012
Ysgol Brynhyfryd | |
---|---|
Arwyddair | Cyd-weithio er mwyn rhagori |
Sefydlwyd | 1898 |
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Cymraeg |
Pennaeth | Mrs Eleri E. Jones |
Lleoliad | Rhuthun, Sir Ddinbych, Cymru |
Disgyblion | 1224 (2008)[1] |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11+ |
Ysgol uwchradd gyfun yn Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Brynhyfryd, ar gyfer plant 11 i 18 oed. Sefydlwyd yr ysgol yn wreiddiol yn 1898 o dan yr enw Ruthin County School for Girls, gyda bechgyn yr ardal yn teithio i Ddinbych i dderbyn eu haddysg. Datganiad o fwriad yr ysgol yw: "Cyd-weithio er mwyn rhagori". Mrs Eleri E. Jones yw pennaeth presenol yr ysgol.
Hanes yr ysgol
Yn 1938, cafodd ei hailenwi yn Brynhyfryd School, fe dderbyniodd yr ysgol fechgyn a merched a daeth plant i'r ysgol o dalgylch ehangach: hyd at chwe milltir i ffwrdd. Adnabyddwyd yr ysgol o dan ei henw Cymraeg ers yr 1970au. Roedd cryn waith adeiladu yn yr ysgol yn yr 1950au a'r 1970au cynnar. Cynyddodd nifer y disgyblion o 700 i 1000 o fewn blwyddyn yn ystod yr 1970au, pan godwyd yr oedran gadael ysgol o 15 i 16. Arwyddair yr ysgol yw Nid dysg heb foes.
Roedd Brynhyfryd yn un o arloeswyr Bagloriaeth Cymru ar ddechrau'r 2000au.
Arolygiadau
Arolygiad 2000
Dywed adroddiad ESTYN 2000, fod tua 1230 o ddisgyblion yn yr ysgol yn 2000, a 240 ohonynt yn y chweched ddosbarth. Daeth 40% o'r dref a 60% o'r ardal wledig. Daeth 35% o’r disgyblion o gartrefi lle roedd y Gymraeg yn brif iaith y cartref, ac 1% o gartrefi lle nad oedd y Gymraeg na'r Saesneg yn brif iaith gartref. Gallai 40% siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf. Daw tua 1% o’r disgyblion o gefndiroedd ethnig lliw ac yn siarad ieithoedd ar wahân i'r Saesneg neu’r Gymraeg gartref. Yn ôl yr adroddiad, roedd safon yr addysg yn dda.[2]
Arolygiad 2008
Cafwyd arolygiad arall yn Rhagfyr 2008, roedd 1224 o ddisgyblion ar y gofrestr pryd hynnu, a dywedodd yr adroddiad y daw tua 74% o'r disgyblion o gartrefi lle siaredir Saesneg yn brif iaith, a 25% o gartrefi Cymraeg eu hiaith. Mae 33% o ddisgyblion yn siarad Cymraeg i safon iaith gyntaf.[1]
Cyfleusterau
Mae hefyd rhwydwaith o gyfleusterau celf a Theatr John Ambrose, a gafodd ei enwi ar ôl cyn-brifathro o'r 1980au a'r 1990 au, agorwyd y theatr gan yr actor Rhys Ifans, a fagwyd yn Rhuthun ac a oedd yn ddisgybl yn Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug, - fel llawer o Gymry Cymraeg Rhuthun yr adeg honno - gan fod honno'n ysgol Gymraeg.
Yn 2003, adeiladwyd 20 dosbarth newydd yn yr ysgol i gymryd lle hen ystafelloedd symudol a ffreutur newydd sbon yn 2008. Gwariwyd 1.6 milliwn o bunnoedd ar yr ysgol i'w gwella. Mae adeilad y chweched ddosbarth yn adeilad rhestredig Gradd II gan Cadw.[3] Mae cyfleusterau chwaraeon yr ysgol yn cynnwys pwll nofio, ac yn cael eu defnyddio fel canolfan hamdden y dref hefyd.
Ysgolion cynradd yn nhalgylch yr ysgol
Ysgolion Naturiol Gymraeg
- Ysgol Bro Cinmeirch (Llanrhaeadr)
- Ysgol Cerrigydrudion
- Ysgol Clocaenog
- Ysgol Cyffylliog
- Ysgol Llanfair, Llanfair Dyffryn Clwyd
- Ysgol Pen Barras, Rhuthun
- Ysgol Pentrecelyn
- Ysgol Rhewl
- Ysgol Maes Hyfryd
Ysgolion Dwyieithog
- Ysgol Borthyn, Rhuthun
- Ysgol Bro Famau
- Ysgol Gellifor
- Ysgol Llanbedr, Llanbedr Dyffryn Clwyd
- Ysgol Stryd y Rhos
Cyn-athrawon o nôd
Bu'r hanesydd Frank Price Jones yn athro yn yr ysgol ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Bu awdures 'Lleian Llan Llŷr' sef Rhiannon Davies Jones hefyd ar staff yr ysgol, yn yr adran Gymraeg.
Cyn-ddisgyblion o nôd
- Seren Gibson - model
- Eric Jones - mynyddwr ac anturieithwr
- Tom Pryce - gyrrwr rasio ceir
Cyfeiriadau
- ↑ 1.0 1.1 Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (2008).
- ↑ Adroddiad Ysgol Brynhyfryd. Estyn (18 – 22 Tachwedd 2002).
- ↑ Ceisiadau Am Ganiatad Datblygu. Pwyllgor Cynllunio (4 Hydref 2006).