Ysgol Rhewl

Oddi ar Wicipedia
Ysgol Rhewl
Enghraifft o'r canlynolysgol gynradd, ysgol Edit this on Wikidata
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthSir Ddinbych, Cymru Edit this on Wikidata

Ysgol gynradd gymunedol ddwyieithog yn Rhewl ger Rhuthun, Sir Ddinbych yw Ysgol Rhewl.[1] Mae'n ysgol categori C o dan y system iaith, ac yn gwasanaethu plant rhwng 4 ac 11 oed. Roedd 41 o ddisgyblion ar gofrestr yr ysgol ym mis Ionawr 2009,[2] i gymharu a 42 yn 2005 (yn cynnwys 9 o blant meithrin). Dim ond saith disgybl oedd yn siarad y Gymraeg fel iaith gyntaf yn 2005.[3]

Roedd yr ysgol dan fygythiad o gau yn sgil cynlluniau ad-drefnu ysgolion Cyngor Sir Ddinbych a gyhoeddwyd ym mis Chwefror 2005.[4]

Gellir gweld Moelydd Clwyd o du blaen yr ysgol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1.  Gwybodaeth Am Ysgol: Manylion: Rhewl Cynradd. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
  2.  Canllaw Gwybodaeth ar Ysgolion 2010/2011. Cyngor Sir Ddinbych. Adalwyd ar 4 Ionawr 2010.
  3.  Adroddiad arolygiad Ysgol Rhewl, 9–11 Mai 2005. Estyn (13 Gorffennaf 2005).
  4.  Cau neu uno 14 ysgol. BBC (15 Chwefror 2005).
Eginyn erthygl sydd uchod am ysgol yng Nghymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato