Gwenlyn Parry: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Llinell 19: Llinell 19:


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==
[http://www.bbc.co.uk/cymru/gwenlyn/dramodydd/dramau.shtml Dramâu Gwenlyn Parry ar wefan BBC Cymru]
*[http://www.bbc.co.uk/cymru/gwenlyn/dramodydd/dramau.shtml Dramâu Gwenlyn Parry ar wefan BBC Cymru]





Fersiwn yn ôl 14:18, 23 Tachwedd 2012

Dramodydd Cymraeg sy'n adnabyddus am ei dramâu arloesol sy'n perthyn i genre Theatr yr Abswrd oedd Gwenlyn Parry (1932 - 5 Tachwedd 1991).

Roedd yn frodor o bentref Deiniolen, Gwynedd. Cafodd ei addysg yn y Coleg Normal, Bangor. Ar ôl cyfnod yn Llundain lle daeth i adnabod Rhydderch Jones a Ryan Davies a chyfnod fel athro ym Methesda, cafodd swydd fel sgiptiwr gyda BBC Cymru. Ar ôl cyfnod o salwch bu farw yn ardal Caerdydd ar 5 Tachwedd 1991; cafodd ei gladdu ym mynwent Pen-y-groes, Gwynedd.

Ysgrifenodd nifer o benodau i'r gyfres Pobol y Cwm a rhaglenni eraill ar y teledu, ond fe'i cofir fel dramodwr yn bennaf am ei ddramâu arloesol o'r 1960au hyd y 1980au. Mae'r rhain yn cynnwys Saer Doliau (1966) ac Y Tŵr (1978). Cryfder y dramâu hyn yw eu cyfuniad o elfen Abswrd, gwrthnaturyddol, a deialog dafodieithol naturiol a chredadwy sy'n creu gwaith arbennig ac unigryw.

Cyfranodd i sgript y ddrama deledu Grand Slam a'r ffilm o Un Nos Ola Leuad (seiliedig ar y nofel o'r un enw gan Caradog Prichard).

Dramâu

  • Tair Drama (1965)
  • Saer Doliau (1966)
  • Tŷ ar y Tywod (1968)
  • Y Ffin (1973)
  • Y Tŵr (1978)
  • Sál (1982)

Gweler hefyd

Dolenni allanol

Baner CymruEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am Gymro neu Gymraes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.