David Livingstone: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
B r2.7.2) (robot yn ychwanegu: lij:David Livingstone
Llinell 61: Llinell 61:
[[ka:დეივიდ ლივინგსტონი]]
[[ka:დეივიდ ლივინგსტონი]]
[[ko:데이비드 리빙스턴]]
[[ko:데이비드 리빙스턴]]
[[lij:David Livingstone]]
[[lt:David Livingstone]]
[[lt:David Livingstone]]
[[lv:Deivids Livingstons]]
[[lv:Deivids Livingstons]]

Fersiwn yn ôl 20:43, 19 Awst 2012

David Livingstone
GalwedigaethCenhadwr, fforiwr

Cenhadwr a fforiwr Albanaidd oedd David Livingstone (19 Mawrth 1813 - 1 Mai 1873).

Ganed ef yn Blantyre, Swydd Lanark, yn fab i Neil Livingstone (1788-1856) a'i wraig Agnes (1782-1865). Dechreuodd David weithio yn y felin gotwm leol. Yn 1836 aeth i Brifysgol Anderson, Glasgow, i astudio, ac yn fuan wedyn, derbyniwyd ei gais i ymuno a Chymdeithas Genhadol Llundain. Aeth i Lundain i astudio i fod yn feddyg. Yno cyfarfu a Robert Moffat, cenhadwr ar wyliao o Kuruman, De Affrica. Yn 1841, aeth Livingstone i Kuriman, yna yn 1844 symudodd i'r gogledd i ddechrau cenhadaeth yn Mabotswa. Yma, bu bron iddo gael ei ladd gan lew, a'i anafodd yn ddifrifol.

Yn 1845, priododd Mary, merch Robert Moffat. Ganed eu merch, Agmes, yn 1847. Rhwng 1852 a 1856, bu'n fforio tua'r gogledd, ac ef oedd yr Ewropead cyntaf i weld rhaeadr Mosi-oa-Tunya, a enwyd yn Rhaeadr Victoria ganddo. Roedd yn un o'r Ewropeaid cyntaf i deithio ar draws Affrica, o Luanda i Quelimane.

O 1858 hyd 1864 bu'n arwain ymgyrch i fforio afon Zambezi. Dychwelodd i Affrica yn 1866, i Zanzibar, i ddechrau ymgyrch i chwilio am darddle afon Nîl. Ef oedd yr Ewropead cyntaf, mae'n debyg, i weld Llyn Malawi. Gwnaeth lawer i geisio dileu y fasnach mewn caethweision yn nwyrain Affrica. Gan nad oedd newyddion amdano wedi cyrraedd Zanzibar, yn 1869 gyrrwyd Henry Morton Stanley gan y New York Herald i chwilio amdano. Cafodd Stanley hyd iddo ar lan Llyn Tanganyika ar 10 Tachwedd 1871. Roedd Livingstone eisoes yn wael, a bu farw yn Ilala, yn awr yn Zambia.