Nest ferch Rhys ap Tewdwr: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
ZéroBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: it:Nest verch Rhys |
||
Llinell 21: | Llinell 21: | ||
[[en:Nest ferch Rhys]] |
[[en:Nest ferch Rhys]] |
||
[[fr:Nest (princesse)]] |
[[fr:Nest (princesse)]] |
||
[[it:Nest verch Rhys]] |
|||
[[no:Nest ferch Rhys]] |
[[no:Nest ferch Rhys]] |
||
[[ru:Нест верх Рис]] |
[[ru:Нест верх Рис]] |
Fersiwn yn ôl 14:31, 31 Gorffennaf 2012
Yr oedd y Dywysoges Nest yn ferch i Rhys ap Tewdwr, brenin olaf Deheubarth (fl. 1100-1120).
Adwaenir Nest fel Helen Cymru oherwydd iddi gael ei chipio gan Owain ap Cadwgan yn 1109, efallai yng nghastell Cilgerran. Roedd hi'n hardd eithriadol a chafodd garwriaethau niferus. Dywedir iddi esgor ar dros bymtheg o blant.
Tua'r flwyddyn 1100 priododd â Gerald de Windsor. Ymhlith ei phlant gan Gerallt o Windsor oedd ei ferch Angharad. Priododd Angharad â William de Barri, arglwydd Maenorbŷr; un o'i meibion oedd y llenor enwog Gerallt Gymro.
Cafodd fab gyda Harri I, brenin Lloegr, a gafodd yr enw Henry Fitz Roy. Lladdwyd ef pan oedd un un o arweinwyr y fyddin a ymosododd ar Ynys Môn yn 1157, yn ystod cyrch brenin Lloegr yn erbyn Owain Gwynedd. Cafodd Nest hefyd nifer o blant gan Stephen, cwnstabl castell Aberteifi, yn cynnwyd Robert Fitz-Stephen, arweinydd y fyddin Normanaidd gyntaf i groesi i Iwerddon i ddechrau'r goresgyniad Normanaidd yno.
Ffuglen
Ysgrifenwyd dwy nofel ramantaidd am hanes Nest a'i bywyd anturiaethus gan Geraint Dyfnallt Owen, sef Nest (1949) a Dyddiau'r Gofid (1950).