Rhyfel Cartref Rwsia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
iaith
MerlIwBot (sgwrs | cyfraniadau)
Llinell 49: Llinell 49:
[[lt:Rusijos pilietinis karas]]
[[lt:Rusijos pilietinis karas]]
[[lv:Krievijas pilsoņu karš]]
[[lv:Krievijas pilsoņu karš]]
[[mk:Руска граѓанска војна]]
[[ms:Perang Saudara Rusia]]
[[ms:Perang Saudara Rusia]]
[[mwl:Guerra Cebil Russa]]
[[mwl:Guerra Cebil Russa]]

Fersiwn yn ôl 03:24, 29 Gorffennaf 2012

Gwŷr meirch y Fyddin Goch yn dod i mewn i Odessa, Chwefror 1920.

Rhyfel cartref rhwng sawl carfan yng nghyn Rwsia Imperialaidd oedd Rhyfel Cartref Rwsia (1917-1922).

Dechreuodd yn dilyn Chwyldro Hydref pan gipiodd y Bolsiefigiaid comiwnyddol bŵer yn St Petersburg ar y 7fed o Dachwedd, 1917 (Calendr Gregori) gan ddod â'r Llywodraeth Dros Dro i ben. Rhyfel rhwng y Fyddin Goch - y Bolsiefigiaid a'i gynghreiriaid, a'r Fyddin Gwyn - cymysgedd o gefnogwyr y llywodraeth dros dro, y cyn Tsar ac adweithwyr, oedd yn bennaf. Roedd nifer o luoedd gwahanol genhedloedd a oedd yn ymladd dros annibyniaeth, carfanau gwerinol (a enwir y Byddinoedd Gwyrddion gan rai) a Byddin Ddu anarchwyr Wcráin yn brwydro yn ogystal. Gan fod Rwsia hyd at 1918 (Cytundeb Brest-Litovsk) yn rhan o'r Rhyfel Byd Cyntaf, roedd lluoedd y Pwerau Canolig (gan gynnwys yr Almaen, Awstria-Hwngari ac Ymerodraeth yr Otomaniaid) hefyd yn rhan o'r rhyfel ar y dechrau, ac yn hwyrach daeth amhariad y Gynghreiriaid â byddinoedd y Deyrnas Unedig, Ffrainc, yr Unol Daleithiau a Siapan i'r ffrae.

Y canlyniad oedd buddugoliaeth gan y Blaid Bolsiefic a dechreuad yr Undeb Sofietaidd yn ogystal a genedigaeth sawl wlad newydd annibynnol yng Ngorllewin Ewrop.

Nodyn:Link FA Nodyn:Link FA