Eric Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B cat
Llwybrau (sgwrs | cyfraniadau)
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
Dringwr ac anturiaethwr Cymreig o [[Tremadog|Dremadog]], [[Gwynedd]], yw [[Eric Jones]]. Mae'n fwyaf adnabyddus am ddringo wyneb gogleddol yr [[Eiger]] yn yr [[Alpau]] yn [[1981]] ar ei ben ei hun, a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel ''Eiger Solo''.
Dringwr ac anturiaethwr Cymreig o [[Tremadog|Dremadog]], [[Gwynedd]], yw [[Eric Jones]] (ganwyd 1936). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddringo wyneb gogleddol yr [[Eiger]] yn yr [[Alpau]], yn [[1981]] ar ei ben ei hun, a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel ''Eiger Solo''. Yn ogystal â hyn, mae Eric Jones yn enwog am ddringo y [[Matterhorn]] a'r [[Bwlch|bwlch deheuol]] i gopa [[Everest]].

Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref [[Derwen|Derwen, Sir Dinbych]], Sir Ddinbych a mynychodd [[Ysgol Brynhyfryd]] yn [[Rhuthun]]. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn [[chwarel]] yn [[Gwyddelwern|Ngwyddelwern]]. Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, roedd bryd Eric ar ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w [[pen-glin|ben-glin]]. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda hwy.

Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio mewn [[ffatri]] yn [[Y Fflint]]. Yn ysod ei amser hamdden, byddai Eric yn hoff o ymweld â'r mynyddoedd yn [[Eryri]] ac yn 25 mlwydd oed, penderfynodd Eric a'i gyfaill Gordon Rees ddilyn cwrs tri niwrnod a gynhaliwd yn [[Dyffryn Ogwen|Nyffryn Ogwen]] ar sut i ddringo gyda rhaffau.

Dysgodd Eric ddringo yn ardal [[Llanberis]] a daeth yn feistr ar y grefft yn sydyn iawn. Wedi hynny, dechreuodd ddringo ar ei ben ei hun heb raffau, a bu'n dringo llawer yn ardaloedd yr [[Alpau]] a'r [[Himalaya]] yn ogystal a mynyddoedd [[De America|De'r Amerig]].

Yn ychwanegol i ddringo mynyddoedd, mae Eric Jones yn ymddiddori mewn [[parasiwtio]] a [[neidio B.A.S.E.]]. Mae hefyd yn berchenog ar gaffé yn Nrhemadog.


==Dolenni allanol==
==Dolenni allanol==

Fersiwn yn ôl 13:37, 6 Mai 2012

Dringwr ac anturiaethwr Cymreig o Dremadog, Gwynedd, yw Eric Jones (ganwyd 1936). Mae'n fwyaf adnabyddus am ddringo wyneb gogleddol yr Eiger yn yr Alpau, yn 1981 ar ei ben ei hun, a ffilmiwyd gan Leo Dickinson fel Eiger Solo. Yn ogystal â hyn, mae Eric Jones yn enwog am ddringo y Matterhorn a'r bwlch deheuol i gopa Everest.

Magwyd Eric Jones ar fferm ei deulu ger pentref Derwen, Sir Dinbych, Sir Ddinbych a mynychodd Ysgol Brynhyfryd yn Rhuthun. Treuliodd lawer o'i blentyndod yn cynorthwyo ar y fferm a daeth yn brif ofalwr ar y fferm ar ôl marwolaeth ei dad pan oedd Eric yn ddeunaw mlwydd oed. Yn fuan wedyn, symudodd y teulu a dechreuodd Eric weithio mewn chwarel yn Ngwyddelwern. Pan gafodd yr alwad i gwblhau ei wasanaeth cenedlaethol, roedd bryd Eric ar ymuno gyda Chatrawd y Parasiwtwyr, ond methodd a gwneud hynny oherwydd ei fod wedi dioddef anaf i'w ben-glin. Yn y pen draw, ymunodd Eric gyda'r Heddlu Milwrol a threuliodd ddwy flynedd yn gwasanaethu gyda hwy.

Pan ddychwelodd Eric i Gymru, cychwynodd weithio mewn ffatri yn Y Fflint. Yn ysod ei amser hamdden, byddai Eric yn hoff o ymweld â'r mynyddoedd yn Eryri ac yn 25 mlwydd oed, penderfynodd Eric a'i gyfaill Gordon Rees ddilyn cwrs tri niwrnod a gynhaliwd yn Nyffryn Ogwen ar sut i ddringo gyda rhaffau.

Dysgodd Eric ddringo yn ardal Llanberis a daeth yn feistr ar y grefft yn sydyn iawn. Wedi hynny, dechreuodd ddringo ar ei ben ei hun heb raffau, a bu'n dringo llawer yn ardaloedd yr Alpau a'r Himalaya yn ogystal a mynyddoedd De'r Amerig.

Yn ychwanegol i ddringo mynyddoedd, mae Eric Jones yn ymddiddori mewn parasiwtio a neidio B.A.S.E.. Mae hefyd yn berchenog ar gaffé yn Nrhemadog.

Dolenni allanol