Mynydd Hermon: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: bg:Ермон
B r2.7.1) (robot yn ychwanegu: pnb:ماؤنٹ ہرمن
Llinell 42: Llinell 42:
[[no:Hermonfjellet]]
[[no:Hermonfjellet]]
[[pl:Hermon]]
[[pl:Hermon]]
[[pnb:ماؤنٹ ہرمن]]
[[pt:Monte Hérmon]]
[[pt:Monte Hérmon]]
[[ru:Хермон]]
[[ru:Хермон]]

Fersiwn yn ôl 18:20, 2 Mawrth 2012

Mynydd Hermon
Mynyddoedd Antilibanus
Mynydd Hermon
Llun Mynydd Hermon
Uchder 2,814 m (9,230 troedfedd)
Lleoliad {{{lleoliad}}}
Gwlad Libanus/Syria/Israel


Mynydd yn y Dwyrain Canol yw Mynydd Hermon (Arabeg: Jebel el Al Shaikh, Hebraeg: הר חרמון, Har Hermon). Saif ym mynyddoedd Antilibanus, gyda'r copa ar y ffîn rhwng Libanus a Syria. Mae tua 100km2 o'r llethrau de-orllewinol dan reolaeth Israel ers y Rhyfel Chwe Diwrnod yn 1967; cyhoeddodd Israel yn 1980 fod y diriogaeth yma yn cael ei hymgorffori. Mae gan Syria ac Israel arsyllfeydd milwrol ar lethrau'r mynydd.

Mae Mynydd Hermon yn enwog am ei harddwch, a chanodd llawer o feirdd Hebraeg ac Arabeg iddo. Ceir tarddle Afon Iorddonen ar ei lethrau, a cheir nifer o gyfeiriadau ato yn y Beibl. Oherwydd hyn, mae'n bur gyffredin fel enw ar gapel yng Nghymru, a cheir yr enw "Hermon" ar o leiaf dri pentref, Hermon (Sir Gaerfyrddin), Hermon (Sir Benfro) a Hermon (Ynys Môn).