Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Gŵydd Canada"

Jump to navigation Jump to search
No change in size ,  1 mis yn ôl
dim crynodeb golygu
(+audio #WPWP)
No edit summary
 
Mae '''Gŵydd Canada''' (''Branta canadensis'') yn un o'r mwyaf cyffredin o'r gwyddau. Mae'n frodor o [[Gogledd America|Ogledd America]], yn nythu yng [[Canada|Nghanada]] a gogledd yr [[Unol Daleithiau]] ac yn symud tua'r de yn y gaeaf. Mae'n nythu ar lawr heb fod ymhell o ddŵr fel rheol.
[[Delwedd:Bod Petrual01.jpg|bawd|chwith|Gwyddau Canada ar Lyn Petrual, Sir Ddinbych ym mis Hydref.]]
Gellir adnabod yr ŵydd yma yn hawdd o'r gwddf a pen du, gyda darn gwyn ar y gên, a'r corff yn llwydfrown. Mae'r ddau ryw yn debyg iawn i'w gilydd. Yr unig ŵydd sy'n weddol debyg yw'r [[Gŵydd Wyranwyran|Ŵydd Wyranwyran]], sy'n llai ac yn dangos wyneb gwyn. Mae 7 o is-rywogaethau o Ŵydd Canada, sy'n amrywio'n fawr o ran maint.
 
Erbyn hyn mae Gŵydd Canada wedi ei gollwng yn fwriadol mewn nifer o wledydd yn Ewrop ac yn [[Seland Newydd]]. Mae'n aderyn cyffredin ar lynnoedd a chorsydd [[Cymru]], ac mae'n ymddangos bod y boblogaeth yn cynyddu, gyda heidiau o gannoedd i'w gweld mewn ambell fan.

Llywio