Inis: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
gwybodlen |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 9: | Llinell 9: | ||
Ceir cofgolofn yma i [[Daniel O'Connell]], oedd yn frodor o'r dref. |
Ceir cofgolofn yma i [[Daniel O'Connell]], oedd yn frodor o'r dref. |
||
[[Categori:Trefi |
[[Categori:Trefi Swydd Clare]] |
||
[[Categori:Daearyddiaeth Swydd Clare]] |
Fersiwn yn ôl 09:51, 3 Ebrill 2022
Math | tref sirol |
---|---|
Poblogaeth | 24,253 |
Cylchfa amser | UTC±00:00, UTC+01:00 |
Gefeilldref/i | Phoenix |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Clare |
Gwlad | Gweriniaeth Iwerddon |
Uwch y môr | 3 ±1 metr |
Cyfesurynnau | 52.8463°N 8.9807°W |
Prif dref Swydd Clare yn nhalaith Munster, Gweriniaeth Iwerddon yw Inis (Saesneg: Ennis). Saif ar Afon Fergus, i'r gogledd o Limerick ac i'r de o Galway, ar y briffordd N18. Yr enw llawn gwreiddiol oedd Inis Cluain Ramh Fhada ("Ynys y Rhwyfo Hir"). Saif o fewn 12 milltir i Faes Awyr Shannon. Roedd y boblogaeth yn 2006 yn 24,253.
Tyfodd Inis o amgylch yr abaty Ffransiscaidd, a sefydlwyd tua 1242. Ceir Eglwys gadeiriol Sant Pedr a Sant Paul yma hefyd. Mae'n ganolfan bwysig i gerddoriaeth draddodiadol Iwerddon, a chynhelir gwyl gerddorol y Fleadh Nua yma'n flynyddol tua diwedd Mai.
Ceir cofgolofn yma i Daniel O'Connell, oedd yn frodor o'r dref.