Calan Mai: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
BDim crynodeb golygu |
|||
Llinell 3: | Llinell 3: | ||
[[Delwedd:Fair in Bala (8182125308).jpg|250px|bawd|Plant yn Ffair Glamai [[y Bala]], 1952]] |
[[Delwedd:Fair in Bala (8182125308).jpg|250px|bawd|Plant yn Ffair Glamai [[y Bala]], 1952]] |
||
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]] |
[[Delwedd:Maypoles.jpg|bawd|dde|250px|Sawl Bedwen haf yng Ngholeg Bryn Mawr, [[Pennsylvania]]]] |
||
Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw '''Calan Mai''' (hefyd a elwir yn '''Gŵyl Calan Mai''', neu '''Calan Haf'''; '''Gla'Mai''' neu '''Glamai''' ar lafar) a ddethlir ar [[1 Mai]]. Roedd yn ŵyl bwysig i'r [[Celtiaid]] a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn '''''Beltane''''' neu '''''Bealtaine''''', neu ''Cétshamhain'' mewn [[Gwyddeleg]]. Fel y mae'r enw ''Bealtaine'' yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd [[Belenos]] ([[Beli Mawr]] i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng [[Gŵyl Fair|Gŵyl y Canhwyllau]] (1 Chwefror) ac [[Alban Hefin]] (21 Mehefin). Roedd [[dawnsio haf]] a [[Codi'r Fedwen|chodi'r fedwen]] (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir [[Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr]] ar Galan Mai hefyd. |

Llinell 16: | Llinell 17: | ||
* Ar noson Calan Mai yn [[Sir Fôn]] a [[Sir Gaernarfon]] arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.<ref name="Welsh Folk Customs">''Welsh Folk Customs''</ref> |

* Arferid canu carolau Mai ('[[Carol haf|carolau haf]]' neu 'garolau dan y pared') sef caneuon eithaf erotig.<ref name="Welsh Folk Customs"/> |
* Arferid canu carolau Mai ('[[Carol haf|carolau haf]]' neu 'garolau dan y pared') sef caneuon eithaf erotig.<ref name="Welsh Folk Customs"/> |
||
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal |
* Yfid [[medd]] a [[meddyglyn]] (medd a [[perlysiau|pherlysiau]]) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal â [[gwaseila]].<ref name="Welsh Folk Customs"/> |
||
== Neo-baganiaeth == |
== Neo-baganiaeth == |
Fersiwn yn ôl 09:17, 29 Mawrth 2022
Enghraifft o'r canlynol | gŵyl, traddodiad Celtaidd |
---|
Hen ŵyl sy'n nodi dechrau'r haf ydyw Calan Mai (hefyd a elwir yn Gŵyl Calan Mai, neu Calan Haf; Gla'Mai neu Glamai ar lafar) a ddethlir ar 1 Mai. Roedd yn ŵyl bwysig i'r Celtiaid a sawl diwylliant arall. Gelwir hi hefyd yn Beltane neu Bealtaine, neu Cétshamhain mewn Gwyddeleg. Fel y mae'r enw Bealtaine yn ei awgrymu, y mae'r duw Celtaidd Belenos (Beli Mawr i'r Cymry) yn ymwneud â'r ŵyl bwysig hon. Yng nghalendr y Celtiaid, y mae'n gorwedd rhwng Gŵyl y Canhwyllau (1 Chwefror) ac Alban Hefin (21 Mehefin). Roedd dawnsio haf a chodi'r fedwen (neu'r pawl haf) ar un adeg yn ddigwyddiad cyffredin ledled Cymru a gwledydd eraill. Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar Galan Mai hefyd.
Arferion ac arwyddocâd
Yn y testun Gwyddeleg Canol Sanas Cormac, dywedir fod gan y derwyddon le pwysig iawn i'w chwarae mewn cynnau tân tua'r adeg hon o'r flwyddyn gan yrru gwartheg rhwng y tanau er mwyn eu diogelu rhag clefydau.[1]
Gŵyl ffrwythlondeb a thwf oedd hon yn bennaf ac fe'i dethlir hi heddiw drwy'r byd. Arferid cynnau coelcerthi ar Galan Mai hyd at ganol y 19ed ganrif yn ne Cymru.[2]
Mae cyfeiriadau at ddigwyddiadau tynghedfennol - Ffawd - ar Nos Calan Mai yn gyffredin mewn chwedlau Cymraeg, e.e. yn Hanes Taliesin. Yn y Mabinogi, arferai Gwyn ap Nudd a Gwythyr fab Greidawl ymryson â'i gilydd am law Creiddylad brydferth pob Calan Mai.
Traddodiadau Cymreig
- Ar nos Calan Mai (h.y. y noson cyn y cyntaf o Fai) arferid casglu canghennau o'r ddraenen wen a blodau eraill i addurno'r tu allan i'r tŷ fel symbol o dwf.[3]
- Ar noson Calan Mai yn Sir Fôn a Sir Gaernarfon arferid chwarae gŵr gwyllt (neu grogi gŵr gwellt). Pe bai dyn yn colli ei gariad i berson arall, arferai wneud fodel bychan ohono gyda gwellt a'i guddio wrth dŷ ei gariad. Rhoddid nodyn bychan wedi ei glymu i'r dyn gwellt i ddo a lwc drwg i'r lleidr calon.[4]
- Arferid canu carolau Mai ('carolau haf' neu 'garolau dan y pared') sef caneuon eithaf erotig.[4]
- Yfid medd a meddyglyn (medd a pherlysiau) i ddathlu'r ŵyl yn ogystal â gwaseila.[4]
Neo-baganiaeth
Mae'n un o wyliau Wica ac fe'i dethlir gan neo-baganiaid eraill hefyd.
Gwleidyddiaeth
Dethlir Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr ar y 1af o Fai. Sefydlwyd yr ŵyl yn 1889. Yn yr hen Undeb Sofietaidd a gwledydd eraill y Bloc Dwyreiniol cynhelid gorymdeithiau mawr ar achlysur Diwrnod Rhyngwladol y Gweithwyr. Mae'r traddodiad yn parhau mewn sawl gwlad o gwmpas y byd fel diwrnod o ddathlu a/neu brotest.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau
|