Imbolc
| Imbolc / Dydd Brìghde | |
|---|---|
| Hefyd a elwir | Lá Fhéile Bríde (Gwyddeleg) Là Fhèill Brìghde (Gaeleg yr Alban) Laa'l Breeshey (Manaweg) |
| Cedwir gan | Yn hanesyddol: Gaeliaid Heddiw: Gwyddelod, Albanwyr, Manawiaid, Paganiaid modern |
| Math | Yn ddiwylliannol, Cristnogol (Catholig Rufeinig, Anglicanaidd), Paganaidd (Neo-baganiaeth Geltaidd, Wica) |
| Arwyddocâd | dechrau'r gwanwyn, dygwyl Santes Brigid |
| Dathliadau | gwledda, gwneud croesau Brìghde a Brídeógau, ymweld â ffynhonnau sanctaidd, glanhau gwanwyn |
| Dyddiad | 1 Chwefror (neu 1 Awst i ambell neo-Bagan yn Hemisffer y De) |
| Dathliadau tebyg | Gŵyl Fair y Canhwyllau, Candlemas |

Hen ŵyl Geltaidd yw Imbolc, sydd ar y 1af neu'r 2il o fis Chwefror, sef dechrau'r Gwanwyn. Enw Gwyddeleg yw Imbolc (ynganer: 'Imbolg'), gair sy'n golygu "yn y bol". Yn y cyfnod Cristnogol, daeth Gŵyl Fair y Canhwyllau i gymryd lle'r hen ŵyl Baganaidd yng Nghymru a nifer o wledydd eraill. Ni wyddom beth oedd yr enw cyn-Gristnogol ar yr ŵyl yng Nghymru, ond parhaodd rhai o draddodiadau ac arferion Imbolc yn rhan o ddathliad yr ŵyl Gristnogol gan y werin. Yn Iwerddon, roedd Brigit (cytras â Brigantia efallai; tarddiad enw Afon Braint, Môn) yn dduwies Geltaidd a daeth hon yn ŵyl y Santes Brigid (Cymraeg: Ffraid) yn Iwerddon; hi oedd duwies meddygaeth a gefail y gof. Roedd cysylltiad clos iawn rhwng yr ŵyl hon â'r arwyddion hynny fod y gwanwyn ar droed: mamogiaid yn llaetha er enghraifft.
Ar y calendr Celtaidd, mae ei lleoliad yn y canol rhwng Cyhydnos yr Hydref (Alban Arthan) a Chyhydnos y Gwanwyn (Alban Eilir).
Roedd tân a phuro yn chwarae rhan bwysig yn Imbolc. Cyneuid canhwyllau yn symbolau fod golau a gwres yr haul yn cryfhau o ddydd i ddydd.
Heddiw mae Imbolc yn achlysur pwysig i ddilynwyr Wica a chrefyddau neo-baganaidd eraill, a elwir "Gŵyl y Canhwyllau" yn Wica.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]
| |||||