Alban Elfed
Dyddiad ac amser (UTC) heuldroadau a chyhydnosau | ||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
blwyddyn | Cyhydnos Mawrth Alban Eilir |
Heuldro Mehefin Alban Hefin |
Cyhydnos Medi Alban Elfed |
Heuldro Rhagfyr Alban Arthan | ||||
dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | dydd | amser | |
2016 | 20 | 04.30 | 20 | 22.34 | 22 | 14.21 | 21 | 10.44 |
2017 | 20 | 10.28 | 21 | 04.24 | 22 | 20.02 | 21 | 16.28 |
2018 | 20 | 16.15 | 21 | 10.07 | 23 | 01.54 | 21 | 22.22 |
2019 | 20 | 21.58 | 21 | 15.54 | 23 | 07.50 | 22 | 04.19 |
2020 | 20 | 03.49 | 20 | 21.43 | 22 | 13.30 | 21 | 10.02 |
2021 | 20 | 09.37 | 21 | 03.32 | 22 | 19.21 | 21 | 15.59 |
2022 | 20 | 15.33 | 21 | 09.13 | 23 | 01.03 | 24 | 21.48 |
2023 | 20 | 21.24 | 21 | 14.57 | 23 | 06.49 | 22 | 03.27 |
2024 | 20 | 03.06 | 20 | 20.50 | 22 | 12.43 | 21 | 09.20 |
2025 | 20 | 09.01 | 21 | 02.42 | 22 | 18.19 | 21 | 15.03 |
Cyhydnos yr Hydref neu Alban Elfed yw'r 20ed neu'r 21ain o fis Medi; diwrnod pan fo dydd a nos yr un hyd. Dyma un o wyliau pwysicaf calendr y Celtiaid a sawl diwylliant arall o gwmpas y byd.
Iolo Morganwg a fathodd y gair 'alban' (a'r term 'Alban Elfed') ar ddiwedd y 18g i ddynodi un o'r pedwar chwarter mewn blwyddyn. Yr ŵyl draddodiadol Gymreig agosaf iddi oedd Calan Hydref, a ddathlid ar y 1af o Hydref.
Arferid galw'r lleuad llawn cynta ar ôl Cyhydnos yr hydref (22ain o Fedi) yn 'Lleuad Fedi' neu 'Leuad y Cynheuaf', pryd y ceid y 'Naw Nos Olau'. Byddai'r Naw Nos Olau yn eithriadol o bwysig i ffermwyr ar un adeg oherwydd ei goleuni llachar - bron fel golau dydd am o leia' y 4 noson cyn, ac ar ôl y lleuad llawn ei hun. Roedd hyn yn eithriadol o hwylus at gario'r ysgubau ŷd i'r teisi ac am y byddai'r lleuad yn codi hefo'r machlud gellid dal ati i gario o'r caeau (h.y. cyn dyddiau'r dyrnwr medi) ymhell i'r nos – hyd y wawr pe bai angen.