Dawnsio haf

Oddi ar Wicipedia
Y fedwen Fai yn Llangwm, 1920

Roedd dwy ran i'r flwyddyn yn ôl yr hen Frythoniaid: haf a gaeaf a gelwid cychwyn yr haf yn Galan Haf sef y Calan Mai; a brwd iawn oedd y dathlu. Rhan o'r dathlu hwn ydoedd Dawnsio Haf a'r hen arfer o Godi'r Fedwen neu'r Pawl Haf a oedd ar un adeg yn ddigwyddiad drwy Gymru gyfan.[1]

Weithiau defnyddid torch addurnedig yn hyrach na'r fedwen neu'r pawl (yr un gair a "polyn") arferol. Rhwng dueddeg ac ugain oedd yn y criw, fel arfer. Y prif gymeriad yn y ddawns oedd y Cadi Haf neu'r ffŵl ac ef oedd yn gyfrifol am gario'r dorch. Gwisgai hanner fel dyn a hanner fel dynes gyda gwasgod, côt a pheisiau; ac ambell waith - hen fwgwd hyll. Dro arall byddai wedi duo ei wyneb ar wahân i'w lygaid a'i fochau - a liwiai'n gochion. Cariai gydag ef ysgub yn y naill law a lletwad yn y llall.

Gwisgai gweddill y dawnswyr ddillad wedi'u haddurno â rhubanau mwyaf lliwgar posibl a blodau. Cariai'r arweinydd fforch bren ar lun y llythyren "Y". Roedd hon wedi ei gorchuddio â lliain (o'r naill fraich i'r llall) ag amryw lestri arian, tebotiau, llwyau arian ayb. Aethant o fferm i fferm yn dawnsio ac yn casglu arian.[2]

Yn eu plith byddai crythor yn gofalu am y gerddoriaeth. Roedd i'r ddefod hon gychwyn cyngristnogol a sefydlwyd hi er cof neu i ddathlu duwies y blodau a oedd yn cyfateb i Flora'r Rhufeiniaid.[3]

Dywed Hugh Evans yn ei gyfrol Cwm Eithin:

"Gwelais hanes y dawnsio haf yng Ngwyddelwern, (Sir Ddinbych): dywedai'r hanesydd fod nifer o lanciau o Ddyffryn Clwyd yn myned o gylch y wlad i ddawnsio haf, ac iddynt ddyfod i Wyddelwern. A dywedodd gwraig, nad yw ond trigain oed iddi gymeryd rhan yn y ddefod droeon pan oedd yn eneth ieuanc o gylch Colwyn a'r parthau hynny."

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Chwedlau Gwerin Cymru gan Robin Gwyndaf; Amgueddfa Werin Cymru, 1995
  2. "Cwm Eithin" gan Hugh Evans, Gwasg y Brython 1931.
  3. Y Gwyliedydd, 1823 tudalen 306.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]