Pont gludo: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
→Dolenni allanol: Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill using AWB |
B gwybodlen |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
[[Delwedd:Middlesbrough Transporter Bridge.jpg|bawd|200px|Pont Gludo Middlesbrough]] |
[[Delwedd:Middlesbrough Transporter Bridge.jpg|bawd|200px|Pont Gludo Middlesbrough]] |
||
{{pethau}} |
|||
[[Pont]] uchel o fframwaith dur neu haearn, fel rheol, sy'n gadael i longau basio o dani yw '''pont gludo''' neu '''bont lwyfan'''. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged grog fawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Y bont gyntaf o'r math yma oedd [[Pont Vizcaya]] yn [[Portugalete]], [[Gwlad y Basg]], yn [[Sbaen]], a adeiladwyd yn [[1893]] ac a gynlluniwyd gan [[Alberto Palacio]]. Enwyd y bont yma yn [[Safle Treftadaeth y Byd]] yn [[2006]]. |

Fersiwn yn ôl 16:48, 25 Medi 2021
Math | pont symudol |
---|---|
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Pont uchel o fframwaith dur neu haearn, fel rheol, sy'n gadael i longau basio o dani yw pont gludo neu bont lwyfan. Mae cerddwyr a cherbydau'n teithio ar draws yr afon mewn basged grog fawr neu gondola sy'n hongian gerfydd rhaffau dur trwchus o brif drawst y ffrâm. Y bont gyntaf o'r math yma oedd Pont Vizcaya yn Portugalete, Gwlad y Basg, yn Sbaen, a adeiladwyd yn 1893 ac a gynlluniwyd gan Alberto Palacio. Enwyd y bont yma yn Safle Treftadaeth y Byd yn 2006.
Dim ond rhyw ugain o'r pontydd hyn a godwyd erioed, ac o'r rheini dim ond rhyw chwech sy'n dal i gael eu defnyddio. Ceir un o'r rhain yng Nghymru, sef Pont Gludo Casnewydd, sy'n croesi Afon Wysg yn ninas Casnewydd, a agorwyd yn 1906.
Dolenni allanol
- Casglu'r Tlysau Lluniau hanesyddol o Bont Gludo Casnewydd.