Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
B teipo
Tagiau: Golygiad cod 2017
Dim crynodeb golygu
Llinell 1: Llinell 1:
{{Gwybodlen Cyn-wladwriaeth
{{Gwybodlen Cyn-wladwriaeth
| conventional_long_name = Polish–Lithuanian Commonwealth
| conventional_long_name = Res Publica Utriusque Nationis
| status = Ffederasiwn deuarchaidd
| status = Ffederasiwn deuarchaidd
| p1 = Teyrnas Gwlad Pwyl (1385–1569){{!}}Teyrnas Gwlad Pwyl
| p1 = Teyrnas Gwlad Pwyl (1385–1569){{!}}Teyrnas Gwlad Pwyl

Fersiwn yn ôl 18:16, 17 Ebrill 2021

Res Publica Utriusque Nationis
Ffederasiwn deuarchaidd
Teyrnas Gwlad Pwyl|
 

1569–1795
 

 

Y faner frenhinol (c. 1605) Yr arfbais frenhinol
Arwyddair
Location of {{{common_name}}}
Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd (gwyrdd), a'i gwladwriaethau caeth (gwyrdd golau), ar ei hanterth ym 1619.
Prifddinas

(de jure)

  • Kraków (1569–1596)
  • Warsaw (1596–1795)

(de facto)

Ieithoedd Swyddogol:
Pwyleg a Lladin
Crefydd Swyddogol:
Yr Eglwys Gatholig
Llywodraeth
Brenin / Uchel Ddug
 -  1569–1572 Zygmunt II August (cyntaf)
 -  1764–1795 Stanisław August Poniatowski (olaf)
Deddfwrfa Sejm
 -  Cyfrin Gyngor Senedd
Cyfnod hanesyddol Y cyfnod modern cynnar
 -  Undeb Lublin 1 Gorffennaf 1569
 -  Rhaniad 1af 5 Awst 1772
 -  Cyfansoddiad 3 Mai 3 May 1791
 -  2il Raniad 23 Ionawr 1793
 -  3ydd Rhaniad 24 Hydref 1795
Poblogaeth
 -  1582 amcan. 8,000,000 
     Dwysedd 9.8 /km²  (25.4 /sq mi)
 -  1618 amcan. 12,000,000 
     Dwysedd 12 /km²  (31.1 /sq mi)

Gwlad yng Nghanolbarth a Dwyrain Ewrop oedd y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd a fodolai o 1569 i 1795. Ffurfiwyd y ffederasiwn deuarchaidd drwy gyfuno Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania. Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd oedd un o wladwriaethau mwyaf Ewrop yn ystod y cyfnod modern cynnar, ac yn cynnwys bron 400,000 milltir sgwâr a rhyw 11 miliwn o bobl ar ei heithaf yn nechrau yr 17g. Yn ffurfiol, cafodd ei alw gan yr enw hir Teyrnas Gwlad Pwyl ac Uchel Ddugiaeth Lithwania (Pwyleg: Królestwo Polskie i Wielkie Księstwo Litewskie, Lithwaneg: Lenkijos Karalystė ir Lietuvos Didžioji Kunigaikštystė, Lladin: Regnum Poloniae Magnusque Ducatus Lithuaniae), neu Gymanwlad y Ddwy Genedl (Pwyleg: Rzeczpospolita Obojga Narodów, Lladin: Res Publica Utriusque Nationis). Defnyddiwyd yr enw Gwlad Pwyl yn aml i ddisgrifio'r holl Gymanwlad.

Gwlad aml-ethnig ac amlieithog oedd y Gymanwlad, gan gynnwys Pwyliaid, Lithwaniaid, Rwtheniaid, Almaenwyr, Iddewon, a chymunedau bychain o Datariaid, Armeniaid, ac Albanwyr.[1] Roedd hefyd sawl crefydd, gan gynnwys yr Eglwys Gatholig, Protestaniaeth, yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol, Iddewiaeth, ac Islam. Bu ambell gymuned yn meddu ar rywfaint o hunanlywodraeth, er enghraifft Cyngor y Pedair Gwlad a oedd yn arfer y gyfraith Iddewig.

Cyfeiriadau

  1. Peter Paul Bajer, Scots in the Polish-Lithuanian Commonwealth, 16th–18th Centuries: The Formation and Disappearance of an Ethnic Group (Leiden: Brill, 2012).