Clwb Rygbi Llwynypia: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Oddi ar Wicipedia
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
Dim crynodeb golygu
Tagiau: Gwrthdröwyd
g fach
Tagiau: Gwrthdroi â llaw
Llinell 1: Llinell 1:
{{Pethau|fetchwikidata=ALL|suppressfields=Gwladwriaeth|image=Willie Llewellyn.jpg|caption=Willie Llewellyn<br> chwaraewr Llwynypia a enillodd 20 cap i Gymru|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
{{Pethau|fetchwikidata=ALL|suppressfields=gwladwriaeth|image=Willie Llewellyn.jpg|caption=Willie Llewellyn<br> chwaraewr Llwynypia a enillodd 20 cap i Gymru|gwlad={{banergwlad|Cymru}}}}
Roedd '''Clwb Rygbi Llwynypia''' yn [[Rygbi'r undeb|Glwb rygbi'r undeb]] wedi'i leoli ym mhentref [[Llwynypïa|Llwynypia]] yn y [[Y Rhondda|Rhondda]]. Darparodd y tîm sawl chwaraewr rhyngwladol ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, yn fwyaf arbennig [[Willie Llewellyn]], a ddewiswyd nid yn unig i gynrychioli [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] wrth chwarae yn y clwb, ond a chwaraeodd yn ddiweddarach i [[Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig|Ynysoedd Prydain]] ar eu taith yn 1904 o Awstralia a Seland Newydd.
Roedd '''Clwb Rygbi Llwynypia''' yn [[Rygbi'r undeb|Glwb rygbi'r undeb]] wedi'i leoli ym mhentref [[Llwynypïa|Llwynypia]] yn y [[Y Rhondda|Rhondda]]. Darparodd y tîm sawl chwaraewr rhyngwladol ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, yn fwyaf arbennig [[Willie Llewellyn]], a ddewiswyd nid yn unig i gynrychioli [[Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru|Cymru]] wrth chwarae yn y clwb, ond a chwaraeodd yn ddiweddarach i [[Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig|Ynysoedd Prydain]] ar eu taith yn 1904 o Awstralia a Seland Newydd.



Fersiwn yn ôl 09:36, 25 Chwefror 2021

Clwb Rygbi Llwynypia
Willie Llewellyn
chwaraewr Llwynypia a enillodd 20 cap i Gymru
Enghraifft o'r canlynoltîm rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1891 Edit this on Wikidata
LleoliadLlwynypia Edit this on Wikidata

Roedd Clwb Rygbi Llwynypia yn Glwb rygbi'r undeb wedi'i leoli ym mhentref Llwynypia yn y Rhondda. Darparodd y tîm sawl chwaraewr rhyngwladol ar ddiwedd y 19eg a dechrau'r 20fed ganrif, yn fwyaf arbennig Willie Llewellyn, a ddewiswyd nid yn unig i gynrychioli Cymru wrth chwarae yn y clwb, ond a chwaraeodd yn ddiweddarach i Ynysoedd Prydain ar eu taith yn 1904 o Awstralia a Seland Newydd.

Hanes

Sefydlwyd Clwb Rygbi Llwynypia ym 1891, [1] un o sawl tîm yn y Rhondda i ddod i'r amlwg gyda diwydiannu'r cymoedd, pan arweiniodd mwyngloddio'r meysydd glo at fewnlifiad torfol o bobl yn chwilio am waith. Mae'n bosib bod clwb Llwynypia wedi ei sefydlu cyn 1891 gan fod tystiolaeth bod tîm o'r pentref yn chwarae yn gynnar yn yr 1880au. Y sôn gyntaf am gêm yw un rhwng Ystrad a thîm ar y cyd o Donypandy a Llwynypia a chwaraewyd ar 30 Tachwedd 1882.[2] Mae'r sôn nesaf am gêm rhwng Llwynypia ac Aberpennar, a chwaraewyd ar 01 Chwefror 1883.[3] Yn gynnar yn y 1890au, cynrychiolwyd Llwynypia, ynghyd â chlybiau lleol eraill, megis Treorci, Glynrhedynog a Phenygraig yn yr Undeb Rygbi newydd oedd newydd ei ffurfio yng Nghymru. [4] Erbyn 1895 dechreuodd y detholwyr o Gymru ail-werthuso anghenion y pac Cymreig, a dechrau chwilio am arddull chwaraewr mwy corfforol. Byddai'r chwaraewyr hyn yn gallu neidio a sgrymio, ond byddent hefyd yn gallu derbyn a dosbarthu chwarae garw. [5] Cafwyd hyd i'r chwaraewr blaen yma yng nghlybiau'r cymoedd, glowyr cryf a fyddai'n cael eu galw'n 'blaenwyr y Rhondda'. Cynrychiolwyd y brîd newydd o flaenwyr gyntaf ym 1896 gan Sam Ramsey o Dreorci a Dai Evans o Benygraig. Ym 1897 daeth Dick Hellings y chwaraewr cyntaf o Glwb Rygbi Llwynypia i gynrychioli ei wlad. Yn y gêm ganlynol, yn erbyn Iwerddon, ymunodd ail gynrychiolydd y clwb, William Alexander, a thîm Cymru.

Dyma oedd blynyddoedd gogoniant Llwynypia, yn ystod tymor 1895-96, gyda chefnogaeth Hellings ac Alexander, cawsant lwyddiant mawr, gan drechu sawl gwrthwynebydd haen uchaf. [6] Y tymor olynol fe wnaethant orffen heb eu trechu, camp a gyflawnir fel arfer gan dimau dosbarth cyntaf fel Casnewydd a Chaerdydd. Wrth i'r clwb ennill dylanwad, dechreuodd y tîm ddenu talent o glybiau eraill; a oedd yn cynnwys y chwaraewr o Lanelli oedd wedi ei gapio deirgwaith, Jack Evans. [7] Disgrifiwyd cefnau Llwynypia fel rhai 'cyflym oedd wedi eu hyfforddi'n dda', a nodweddwyd gan yr ymddangosiad yn gynnar yn y 1900au gan Willie Llewellyn, bachgen 17 oed allan o Goleg Crist, Aberhonddu. Ym 1901 darparodd Llwynypia dri chwaraewr i dîm Cymru a wynebodd Iwerddon fel rhan o Bencampwriaeth y Pedair Gwlad.

Ym 1904, dechreuodd Llwynypia, oedd bellach yn cael ei ystyried yn glwb haen uchaf, [8] dioddef o'i lwyddiant ei hun pan newidiodd nifer o'i chwaraewyr, naill ai i glybiau proffesiynol, neu i rai mwy 'poblogaidd'. Dirywiodd y gefnogaeth i'r clwb a daeth clwb Llwynypia i ben am gyfnod ym 1905. Adferwyd y clwb ym 1907 ond roedd yn ei chael hi'n anodd ennill cefnogaeth a chwaraewr o ansawdd megis y rai oedd ganddi ar ddechrau'r 1900au. [9] Ar ôl y Rhyfel Byd Cyntaf, gwelodd Cymoedd Rhondda ddirywiad enfawr yn y galw am lo, creodd hyn dirywiad economaidd a deimlwyd ledled de Cymru. Gydag ychydig o incwm i wario, gostyngodd torfeydd, a arweiniodd at fethiant ariannol i lawer o glybiau'r cymoedd. Roedd Llwynypia yn un clwb o'r fath ac fe'i diddymwyd ar ddechrau'r 1930au. [10]

Cyn-chwaraewyr nodedig

Tîm Llwynypia tymor 1905-06

Llyfryddiaeth

  • Griffiths, John (1987). The Phoenix Book of International Rugby Records. Llundain: Phoenix House. ISBN 0-460-07003-7.
  • Morgan, Prys (1988). Glamorgan County History, Volume VI, Glamorgan Society 1780 to 1980. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru.
  • Smith, David; Williams, Gareth (1980). Fields of Praise: The Official History of The Welsh Rugby Union. Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. ISBN 0-7083-0766-3.

Cyfeiriadau

  1. Smith (1980), tud 11.
  2. "FOOTBALL - South Wales Daily News". David Duncan and Sons. 1882-12-02. Cyrchwyd 2021-02-23.
  3. The Pontypridd Chronicle and Workman's News; 10 Mawrth 1883; Llwynypia adalwyd 23 Chwefror 2021
  4. Smith (1980), tud 53.
  5. Griffiths (1987), 4:8.
  6. Smith (1980), tud 105.
  7. Smith (1980), tud 92.
  8. Smith (1980), tud 139.
  9. Smith (1980), tud 181.
  10. Morgan (1988), tud394.