Y gwahaniaeth rhwng diwygiadau o "Diddymu caethwasiaeth"

Jump to navigation Jump to search
Lleihawyd o 12 beit ,  3 mis yn ôl
Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: 18fed ganrif → 18g using AWB
(Trwsio dolennau rhywogaethau a manion eraill, replaced: 18fed ganrif → 18g using AWB)
 
Ymhlith y Diddymwyr blaenllaw eraill roedd [[Charles Sumner]], Seneddwr gwyn a wnaeth sawl araith gyhoeddus yn erbyn caethwasiaeth; [[Sojourner Truth]], a oedd yn siaradwr crefyddol a oedd yn areithio mewn llawer o gyfarfodydd y Diddymwyr, ac a oedd ei hun yn gaethwas a oedd wedi ffoi.<ref>{{Cite web|title=Sojourner Truth|url=https://www.biography.com/activist/sojourner-truth|website=Biography|access-date=2020-09-04|language=en-us}}</ref>
 
Un o weithiau llenyddol enwocaf y 19eg ganrif a roddodd ddisgrifiad o natur greulon caethwasiaeth oedd nofel [[Harriet Beecher Stowe|Harriet Beecher]], [[Caban F'ewyrth Twm|Uncle Tom’s Cabin]], a gyhoeddwyd yn 1852 ac a fu’n hollbwysig o ran peri i’r cyhoedd sylweddoli pa mor erchyll yw caethwasiaeth.<ref>{{Cite web|title=Harriet Beecher Stowe {{!}} Biography, Books, & Facts|url=https://www.britannica.com/biography/Harriet-Beecher-Stowe|website=Encyclopedia Britannica|access-date=2020-09-04|language=en}}</ref> Cafodd y nofel ddylanwad ar gefnogwyr Diddymu yng Nghymru ble cafodd ei chyhoeddi o dan y teitl ''Caban F’ewythr Twm'' a chyhoeddwyd tair fersiwn ohoni yn y Gymraeg.<ref>{{Cite web|url=https://llyfrgell.porth.ac.uk/View.aspx?ID=1408~4n~NNVx9cmN|title=‘Cymry, Caethwasiaeth a Rhyfel Cartref America’|date=|access-date=|website=Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol|last=James|first=E. Wyn|archiveurl=|archivedate=|deadurl=}}</ref> Roedd gan yr awdures, Harriet Beecher Stowe, gysylltiadau teuluol â Chymru hefyd gan fod ei chyndeidiau wedi ymfudo o [[Llanddewibrefi|Landdewi Brefi]], Tregaron i America.
 
Erbyn y 1840au roedd diddymu caethwasiaeth wedi troi'n destun gwleidyddol yn ogystal â bod yn ymgyrch i sicrhau cydraddoldeb. Gwelwyd gwleidyddiaeth fel yr unig ffordd o ddiniistrio caethwasiaeth, ond nid oedd y ddwy brif blaid yn America, sef y Chwigiaid a’r Democratiaid, yn fodlon dod yn rhan o’r drafodaeth. O ganlyniad, ffurfiodd rhai o’r diddymwyr yn y cyfnod hwn eu plaid eu hunain, sef y Blaid Rhyddid. Bu’r blaid newydd hon yn allweddol o ran sicrhau bod diddymu caethwasiaeth yn dod yn destun trafod yng ngwleidyddiaeth genedlaethol America. Yn y pen draw, arweiniodd hynny at ryfel cartref.<ref>{{Cite web|title=Resource WJEC Educational Resources Website|url=https://resources.wjec.co.uk/Pages/ResourceSingle.aspx?rIid=114&langChange=cy-GB%20Uned%202|website=resources.wjec.co.uk|access-date=2020-09-04}}</ref>
 
== Diddymwyr blaenllaw yng Nghymru ==
Yng Nghymru, un o gefnogwyr amlycaf y mudiad Diddymu oedd y radical [[Morgan John Rhys]] (1760-1804), o [[Llanbradach|Lanbradach]], sir Forgannwg a gweinidog gyda’r [[Eglwys y Bedyddwyr|Bedyddwyr]].<ref name=":0">{{Cite book|title=Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig|url=https://www.worldcat.org/oclc/213108835|publisher=Gwasg Prifysgol Cymru|date=2008|location=Caerdydd|isbn=978-0-7083-1954-3|oclc=213108835|others=Davies, John, 1938-, Academi Gymreig.}}</ref> Cefnogai rhyddid yr unigolyn, ymgyrchai yn erbyn caethwasiaeth, a hyrwyddai rhyddid crefyddol a gwleidyddol wedi iddo gael ei ysgogi gan egwyddorion Rhyfel Annibyniaeth America a’r Chwyldro yn Ffrainc. Defnyddiodd ei allu i ysgrifennu fel cyfrwng i fynegi ei farn ar y materion yma gan gyhoeddi ei farn yn erbyn caethwasiaeth yn ‘Y Cylch-grawn Cynmraeg’, sef y cylchgrawn gwledidyddol cyntaf a gyhoeddwyd yn y Gymraeg ac a sefydlwyd gan Morgan John Rhys yn 1793.
 
Cyfieithiodd pamffled o’r Saesneg i’r Gymraeg o dan y teitl,’ Dioddefiadau Miloedd lawer o Ddynion Duon mewn Caethiwed Truenus Yn Jamaica a Lleoedd eraill’ ble wnaeth erfyn ar ei gyd-wladwyr i beidio prynu nwyddau fel siwgr a rym gan ei fod yn hyrwyddo parhad ffiaidd y caethwasiaeth. Roedd y bamffled ymhlith y rhai cyntaf yn y Gymraeg a oedd yn dadlau yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth.<ref>Cof Cenedl IX, Gol.Geraint H. Jenkins, ‘Cymro, Gelynol i bob Gorthrech’, Hywel M. Davies, tud. 71; E. Wyn James, ‘Morgan John Rhys a Chaethwasiaeth Americanaidd’, yn ''Canu Caeth: Y Cymry a’r Affro-Americaniaid'', gol. Daniel G. Williams (Llandysul: Gwasg Gomer, 2010), tt.2-25.</ref> Cyhoeddwyd rhagor o bamffledi ganddo yn erbyn y fasnach gaethwasiaeth wedi iddo ymfudo i America yn 1794 a bu un ohonynt, a gyhoeddwyd yn 1798, sef ‘Letters on Liberty and Slavery’, yn llenyddiaeth bwysig yn arfogaeth dadleuon y Diddymwyr i gael gwared ar gaethwasiaeth.<ref name=":0" />
 
Roedd [[Iolo Morganwg|Iolo Morgannwg]] (Edward Williams), un o gyfoedion radicalaidd Morgan John Rhys, yn cefnogi’r ymgyrch dros ddiddymu caethwasiaeth hefyd.
 
== Dylanwad llenyddiaeth ==
 
== Cerrig milltir pwysig ==
Roedd Clarkson a Wilberforce yn ffrindiau ac yn aelodau pwysig o’r Mudiad Gwrth-gaethwasiaeth ym Mhrydain, mudiad a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif18g.<ref>{{Cite web|title=William Wilberforce and abolition {{!}} Revealing Histories|url=http://revealinghistories.org.uk/who-resisted-and-campaigned-for-abolition/people/william-wilberforce-and-abolition.html|website=revealinghistories.org.uk|access-date=2020-09-04}}</ref>
 
Casglai’r ddau wybodaeth fanwl am y fasnach gaethweision, y porthladdoedd oedd yn elwa, amodau byw'r caethweision ar yr hylciau mawr oedd yn eu cludo ar draws yr Iwerydd, cynlluniau a modelau o’r hylciau a hyd yn oed casglu offer a ddefnyddiwyd i gosbi caethweision. Wedyn, byddent yn cyflwyno'r wybodaeth honno gerbron y Senedd ar ran y mudiad. Cyflwynodd Wilberforce sawl mesur i geisio diddymu’r fasnach gaethweision, ac yn y diwedd pasiodd y Senedd ddeddf yn 1807 a oedd yn diddymu'r fasnach gaethweision, a oedd yn rhan o’r fasnach driongl ar draws Ymerodraeth Prydain. Golygai hyn ei bod yn anghyfreithlon prynu a gwerthu caethweision oddi mewn i'r ymerodraeth. Yn 1808 diddymwyd y fasnach gaethweision yn UDA ond parhaodd mewn llawer o’r taleithiau deheuol.<ref>{{Cite web|title=Congress abolishes the African slave trade|url=https://www.history.com/this-day-in-history/congress-abolishes-the-african-slave-trade|website=HISTORY|access-date=2020-09-04|language=en|first=History com|last=Editors}}</ref>
== Cyfeiriadau ==
<references responsive="" />
 
[[Categori:Caethwasiaeth]]
[[Categori:Prosiect WiciAddysg]]
449,732

golygiad

Llywio