Josiah Wedgwood
Josiah Wedgwood | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
12 Gorffennaf 1730 ![]() Burslem ![]() |
Bu farw |
3 Ionawr 1795 ![]() Etruria ![]() |
Dinasyddiaeth |
Teyrnas Prydain Fawr, y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth |
crochenydd, entrepreneur ![]() |
Tad |
Thomas Wedgwood ![]() |
Mam |
Mary Stringer ![]() |
Priod |
Sarah Wedgwood ![]() |
Plant |
Josiah Wedgwood II, Thomas Wedgwood, John Wedgwood, Susannah Darwim, Sarah Wedgwood, Richard Wedgwood, Catherine Wedgwood, Mary Ann Wedgwood, Paul Foley ![]() |
Perthnasau |
Ursula Mommens ![]() |
Gwobr/au |
Cymrawd y Gymdeithas Frenhinol ![]() |
Crochenydd a dyn busnes o Loegr oedd Josiah Wedgwood (12 Gorffennaf 1730 - 3 Ionawr 1795). Sefydlodd gwmni Wedgwood. Datblygodd well cyrff crochenwaith trwy broses hir a systematig o arbrofi, ac ef oedd yr arweinydd wrth ddiwydiannu cynhyrchu crochenwaith Ewropeaidd (roedd y Tsieineaid wedi cyflawni hyn ers sbel).[1] Roedd brwdfrydedd clasurol adnewyddedig diwedd y 1760au a dechrau'r 1770au o bwys mawr i'w hyrwyddiad gwerthu.[2] Roedd galw mawr am ei nwyddau drud gan y dosbarthiadau uwch, tra defnyddiodd effeithiau efelychu i farchnata setiau rhatach i weddill y gymdeithas.[3]
Yn ddiddymwr amlwg yn ymladd caethwasiaeth, mae Wedgwood yn cael ei gofio hefyd am ei fedal gwrth-gaethwasiaeth. Roedd yn aelod o deulu Darwin - Wedgwood, ac roedd yn daid i Charles ac Emma Darwin.