Neidio i'r cynnwys

Sumbawa: Gwahaniaeth rhwng fersiynau

Ychwanegwyd 63 beit ,  3 blynedd yn ôl
dim crynodeb golygu
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
man gywiriadau using AWB
Dim crynodeb golygu
Llinell 1:
{{Gwybodlen lle| gwlad={{banergwlad|Indonesia}}}}
[[Delwedd:ID - Soembawa.PNG|bawd|Lleoliad ynys Sumbawa]]
 
Mae '''Sumbawa''' yn ynys weddol fawr yn [[Indonesia]]. Saif yng nghanol cadwyn yr [[Ynysoedd Swnda Lleiaf]], gydag ynys [[Lombok]] i'r gorllewin, [[Flores (Indonesia)|Flores]] i'r dwyrain a [[Sumba]] i'r de-ddwyrain. Mae'n rhan o dalaith [[Gorllewin Nusa Tenggara]], a'r dinasoedd mwyaf yw [[Sumbawa Besar]] a [[Bima]] .
 
Er bod Sumbawa yn ynys weddol fawr, 15,448 km², mae'r poblogaeth (1,540,000 yn [[2004]] yn llai na phoblogaeth ynysoedd llai megis Lombok a [[Bali]]. Yn hanesyddol, siaredid dwy iaith ar yr ynys, [[Basa Samawa]] ([[Indoneseg]]: ''Bahasa Sumbawa''), iaith debg i iaith y [[Sasak]] ar Lombok, yn y gorllewin a [[Nggahi Mbojo]] (''Bahasa Bima'') yn y dwyrain.
 
Y mynydd uchaf ar yr ynys yw [[Mynydd Tambora]], 2,850 m o uchder. [[Llosgfynydd]] yw Tambora, ac yn [[1815]] bu ffrwydrad anferth, tua phedair gwaith mwy na ffrwydrad [[Krakatoa]] yn [[1883]]. Lladdwyd hyd at 92,000 o bobl a gollyngwyd cymaint o ludw i'r awyr nes i 1816 gael ei disgrifio yn [[Ewrop]] fel "y flwyddyn heb haf".
 
[[Delwedd:ID - Soembawa.PNG|bawd|Lleoliad ynys Sumbawa yn Indonesia]]
 
[[Categori:Ynysoedd Indonesia]]