Lombok
Gwedd
| Math | ynys |
|---|---|
| Poblogaeth | 3,352,988 |
| Cylchfa amser | UTC+08:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Ynysoedd Swnda Lleiaf |
| Sir | Gorllewin Nusa Tenggara |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 5,435 km², 4,514.11 km² |
| Uwch y môr | 294 metr |
| Gerllaw | Cefnfor India |
| Cyfesurynnau | 8.63122°S 116.31756°E |
![]() | |
Mae Lombok yn un o ynysoedd Indonesia; un o gadwyn yr Ynysoedd Swnda Lleiaf, gydag ynys Bali i'r gorllewin ag ynys Sumbawa i'r dwyrain. Y brifddinas yw Mataram. Mae Culfor Lombok rhwng Lombok a Bali yn dynodi'r rhaniad rhwng bywyd gwyllt y rhanbarth Indomalaiaidd yn y gorllewin a'r rhanbarth Awstralasaidd yn y dwyrain. Gelwir y llinell rhwng y rhanbarthau hyn yn Linell Wallace ar ôl Alfred Russel Wallace, y cyntaf i nodi'r gwahaniaeth.
Y mynydd uchaf ar yr ynys yw Mynydd Rinjani (Indoneseg:Gunung Rinjani), 3,726 m (12,224 troedfedd) o uchder, y trydydd uchaf yn Indonesia. Mae 85% o boblogaeth yr ynys yn perthyn i grŵp ethnig y Sasak, gyda 10-15% yn ymfudwyr o Bali.


