Bali

Oddi ar Wicipedia
Bali
Mathynys Edit this on Wikidata
Poblogaeth4,225,384 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserCylchfa Amser Canol Indonesia Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolYnysoedd Swnda Lleiaf, Bali Edit this on Wikidata
SirBali Edit this on Wikidata
GwladBaner Indonesia Indonesia
Arwynebedd5,632.86 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr3,031 metr Edit this on Wikidata
GerllawCefnfor India, Bali Sea Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau8.335°S 115.0881°E Edit this on Wikidata
Hyd150 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Mae Bali yn un o ynysoedd Indonesia, i'r dwyrain o ynys Jawa ac i'r gorllewin o ynys Lombok, gyda chulfor rhyngddynt. Mae'n un o daleithiau'r wlad hefyd.

Mae'n ynys weddol fechan o'i chymharu a rhai o ynysoedd eraill Indonesia, 5,632.86 km², gyda poblogaeth o 3,151,000 yn 2005. Y brifddinas yw Denpasar, ac ymysg dinasoedd pwysig eraill mae Singaraja ar yr arfordir gogleddol ac Ubud sy'n gyrchfan boblogaidd i dwristiaid sydd a diddordeb yn niwylliant yr ynys. Yn wahanol i'r rhan fwyaf o ynysoedd eraill Indonesia, lle mae dilynwyr Islam yn y mwyafrif, mae'r rhan fwyaf (93%) o drigolion Bali yn ddilynwyr Hindwaeth, neu yn hytrach gymysgedd o Hindwaeth a Bwdhaeth gyda elfennau lleol. Y mynydd uchaf yw Mynydd Agung (Indoneseg: Gunung Agung), 3,142 m (10,308 troedfedd) o uchder; llosgfynydd sy'n dal yn fyw ac yn ffrwydro o dro i dro.

Enillodd yr ynys enwogrwydd byd eang am ei diwylliant a'i chrefftau, yn cynnwys arlunio, cerflunio, dawns a cherddoriaeth. Mae'n gyrchfan boblogaidd iawn i dwristaid, er i'r diwydiant yma gael ei effeithio'n ddifrifol gan y bomiau a ffrwydrodd ar 12 Hydref 2002 yn Kuta, un o'r trefi arfordirol sy'n dibynnu ar dwristiaeth. Lladdwyd 202 o bobl. Bu ymosodiad arall ar raddfa lai yn 2005.

Ynys Bali
Dewi Sri, duwies reis.Ubud, Bali
Taleithiau Indonesia Baner Indonesia
Aceh | Ardal Arbennig y Brifddinas Jakarta | Ardal Arbennig Yogyakarta | Bali | Bangka-Belitung | Banten | Bengkulu | Canolbarth Jawa | Canolbarth Kalimantan | Canolbarth Sulawesi | De Kalimantan | De Sulawesi | De Sumatra | De-ddwyrain Sulawesi | Dwyrain Jawa | Dwyrain Kalimantan | Dwyrain Nusa Tenggara | Gogledd Maluku | Gogledd Sulawesi | Gogledd Sumatra | Gorllewin Jawa | Gorllewin Kalimantan | Gorllewin Nusa Tenggara | Gorllewin Papua | Gorllewin Sulawesi | Gorllewin Sumatra | Jambi | Lampung | Maluku | Papua | Riau | Ynysoedd Riau