Dewi Shri

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Dewi Shri, cerflun o Ubud, Bali

Duwies reis ar ynysoedd Bali a Jawa yn Indonesia yw Dewi Shri (hefyd Dewi Sri, Dewi Asri). Mae'n gysylltiedig a'r Isfyd a'r Lleuad hefyd gyda grym dros dyfiant bwydydd y ddaear a marwolaeth. Mae hi'n ffurf gyfansawdd leol ar y duwiesau Hindŵaidd Devi a Sri.

Mewn chwedlau gwerin mae hi'n gysylltiedig a'i brawd Sedana (Sadhana). Mae rhai chwedlau yn ei chysylltu â neidr sy'n byw yn y meysydd reis (ular sawah). Mae pobl Jawa a Bali yn cadw cysegrfa iddi yn eu tai a addurnir â cherfiadau o'r neidr a chredant fod Dewi Shri yn eu bendithio â ffyniant a ffrwythlondeb.

Draig.svg Eginyn erthygl sydd uchod am fytholeg. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
AUM symbol, the primary (highest) name of the God as per the Vedas.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Hindŵaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.