Appian

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Appian
Ganwyd c. 0095 Edit this on Wikidata
Alexandria Edit this on Wikidata
Bu farw c. 0165 Edit this on Wikidata
Rhufain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Rhufain hynafol, Gwlad Groeg Edit this on Wikidata
Galwedigaeth Hanesydd, Ysgrifennwr, Cyfreithiwr Edit this on Wikidata

Roedd Appian (Groeg: Αππιανος; Lladin: Appianus) (tua 95 - 165), yn hanesydd Groegaidd o ddinesyddiaeth Rufeinaidd a aned yn Alecsandria. Roedd yn byw yn oes yr ymerodron Trajan, Hadrian ac Antoninus Pius.

Cafodd ei eni tua OC 95 yn Alecsandria yn yr Aifft, prifddinas dysg yr Henfyd diweddar. Treuliodd gyfnod fel cyfreithiwr yn Rhufain lle enillasai gyfeillgarwch y rhethregydd Fronto. Mae'n debyg mai Fronto a lwyddodd i berswadio Antoninus Pius i apwyntio Appian yn procurator ymherodrol yr Aifft.

Ysgrifenodd Appian hanes cynhwysfawr o'r Ymerodraeth Rufeinig o'r cyfnod bore hyd amser Trajan. Ychwanegodd bennodau neilltuol ar gyfer hanes teyrnasoedd eraill cyn iddynt ddod dan awdurdod Rhufain, yn cynnwys hanes y Celt-Iberiaid yn Sbaen. Mae safbwynt Appian yn gadarn o blaid y Rhufeiniaid. Er gwaethaf ei ddiffygion, megis camgymeriadau cronolegol, ac arddull sych yr awdur, erys ei lyfr yn ffynhonnell bwysig am y cyfnod.

O'r 24 llyfr gwreididol dim ond 11 sydd wedi goroesi'n gyfan, ynghyd â'r rhagymadrodd, sef hanes:

Ffynhonnell[golygu | golygu cod y dudalen]

  • Oskar Seyffert, A Dictionary of Classical Antiquities (Llundain, 1902)

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]