Annie Powell

Oddi ar Wicipedia
Annie Powell
Ganwyd8 Medi 1906 Edit this on Wikidata
Ystrad Rhondda Edit this on Wikidata
Bu farw29 Awst 1986 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Coleg Hyfforddi Morgannwg Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, athro Edit this on Wikidata
Swyddmaer Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur, Plaid Gomiwnyddol Prydain Fawr Edit this on Wikidata

Roedd Annie Powell (Medi 190629 Awst 1986) yn wleidydd Comiwnyddol Cymreig.

Ganwyd yn y Rhondda ac fe'i haddysgwyd yn Ysgol Ramadeg Pentre, a magodd Powell ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth tra yng Ngholeg Hyfforddi Morgannwg, y Bari, yn y 1920au. Tra'n dilyn cwrs hyfforddiant athrawon yn ystod cyfnod Streic Gyffredinol 1926, magodd Annie Powell ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth am y tro cyntaf a phan ddechreuodd ddysgu yn Nhrebanog, roedd hi'n gweld y maint y tlodi a wynebwyd gan y plant ysgol a'u teuluoedd: "The poverty of the children hit me really hard ". Ymunodd â'r Blaid Lafur, ond roedd y pwyslais a osodwyd ar theori a gweithredu gan Blaid Gomiwnyddol Prydain Fawr (CPGB) wedi creu argraff arni. Ar ôl ystyriaeth hir, rhoddodd ei chefndir crefyddol anghydffurfiol o'r neilltu ac ymunodd â'r CPGB yn 1938.

Parhaodd fel athrawes ac fe ddaeth yn weithgar yn Undeb Cenedlaethol yr Athrawon, tra'n sefyll  mewn sawl etholiad cyffredinol yn Rhondda Dwyrain i'r blaid o 1955. Yn etholiad cyffredinol 1959 sicrhaodd 4,580 o bleidleisiau. Nid yn unig oedd Powell yn siarad Cymraeg ond roedd hefyd yn dysgu trwy'r Gymraeg. Eisteddodd ar Bwyllgor Cymreig y CPGB, ac ar un adeg hi oedd trefnydd y menywod. Yn 1960, roedd yn gynrychiolydd CPGB mewn cynhadledd bwysig o bleidiau Comiwnyddol ym Moscow, lle honnodd ei bod wedi gwneud argraff ar Nikita Khrushchev gyda'i chyflwyniad o "Hen Wlad fy Nhadau", sef anthem genedlaethol Cymru. Efallai o ganlyniad i'r cyfarfod hwn, y daeth yn gefnogwr i syniadau Khrushchev o fewn y CPGB.

Yn 1955, ar ôl tri ar ddeg o ymdrechion, etholwyd Powell fel cynghorydd Comiwnyddol ar gyfer Penygraig, gan golli ym 1957. Yn 1961, ail-etholwyd Powell fel cynghorydd yn y Rhondda. Fe wasanaethodd ar y cyngor am yr ugain mlynedd nesaf, ac ym 1979 fe'i penodwyd yn faer. O'r herwydd, dywedir yn aml mai hi oedd yr unig Faer Comiwnyddol ym Mhrydain, er y gall Finlay Hart a oedd wedi cynnal swydd gyfatebol fel provost yn Clydebank a Joe Vaughan yn Bethnal Green hefyd honni iddynt fod y maer cyntaf Comiwnyddol ym Mhrydain.

Dywedodd mewn un cyfweliad ei bod wedi dysgu gwersi gwerthfawr gan Gomiwnyddwyr megis Arthur Horner, Harry Pollitt, Will Paynter, Jack Davies, a Jack Jones o Dde Cymru

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]