Annabel Giles
Annabel Giles | |
---|---|
Ganwyd | 20 Mai 1959 Pont-y-pŵl, Griffithstown |
Bu farw | 20 Tachwedd 2023 o glioblastoma Hove |
Man preswyl | Brighton |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cyflwynydd, model, actor, llenor, nofelydd |
Priod | Midge Ure |
Plant | Molly McQueen |
Model, cyflwynydd radio a theledu ac actores oedd Annabel Claire Giles (20 Mai 1959 – 20 Tachwedd 2023).[1]
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Fe'i ganed yn Griffithstown, ger Pontypwl, Sir Fynwy, yr hynaf o dair chwaer. Roedd ei thad yn beilot gyda Changen Awyr y Fflyd ac roedd ei mam yn nyrs. Symudodd y teulu yn aml gan fyw yn yr Alban, Malta a Wimbledon, Llundain. Aeth i ysgol breswyl yn 8 mlwydd oed.[2] Cafodd ei diarddel o'i hysgol pan oedd yn16 oed.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Rhwng 1977 a 1982 hyfforddodd a gweithiodd fel ysgrifenyddes; nes y cafodd swydd fel wyneb poblogaidd cosmetics Max Factor.
Cafodd yrfa amrywiol ym myd teledu a radio. Cychwynodd efo Razzmatazz a Night Network yn y 1990au yn cyflwyno Posh Frocks and New Trousers efo Sarah Greene ar ITV. Ymddangosodd hefyd ar raglennu teledu House Party guda Noel Edmonds, Have I Got News for You, Shooting Stars, ar banel Through the Keyhole yn ogystal â Just a Minute (BBC Radio 4).
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Priododd Midge Ure, prif ganwr Ultravox ac un o hoelion wyth Band Aid a Live Aid. Ganwyd merch iddynt, Molly Lorenne, yn 1987 ond gwahanodd y cwpl yn 1989.
Cafodd ddiagnosis o diwmor ar yr ymennydd yng Ngorffennaf 2023. Bu farw ar 20 Tachwedd 2023 yn Hosbis Martlets, Hove, yn 64 mlwydd oed.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Smith, Steven (2023-11-21). "TV presenter Annabel Giles has died after brain tumour diagnosis". Wales Online (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-21.
- ↑ Giles, Annabel (2006-07-04). "Love etc". The Times. Cyrchwyd 2023-11-21.
- ↑ "Y cyflwynydd Annabel Giles o Bont-y-pŵl wedi marw yn dilyn diagnosis o diwmor ar yr ymennydd". newyddion.s4c.cymru. 2023-11-21. Cyrchwyd 2023-11-21.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Gwefan swyddogol