Anialwch

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Anialdir)
Anialwch
Enghraifft o'r canlynolbïom, tirffurf Edit this on Wikidata
Mathdrylands, tirlun, ecosystem, habitat Edit this on Wikidata
Rhan oamgylchedd Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Tywynod ym Mharc Cenedlaethol Dyffryn Marwolaeth, Califfornia
Anialwch Atacama

Ardal heb lawer o law yw anialwch (diffeithwch). Ceir anialwch iâ a thwndra mewn ardaloedd oer, ac anialwch sych mewn ardaloedd poeth. Ceir anialwch sych mewn nifer o ardaloedd: mewn ardaloedd isdrofannol (e.e. Sahara, Gobi a Kalahari), mewn ardaloedd arfordirol (e.e. Atacama a Namib), mewn basnau mawr yn y mynyddoedd (e.e. y Great Basin), neu y tu hwnt i fynyddoedd. Mewn llawer ohonynt does dim ond tywod, cerrig neu halen.

Byw yn yr anialwch[golygu | golygu cod]

Ychydig iawn o drigfannau a geir yn yr anialwch. Yn draddodiadol mae nifer o'i drigolion yn byw bywyd nomadaidd neu led-nomadaidd. Ond lle ceir dŵr ceir gwerddonau ffrwythlon ac mae'r enghreifftiau mwyaf ohonynt yn cynnal trefi a phentrefi pur sylweddol, yn arbennig yn y Sahara ac Anialwch Arabia.

Anialeiddio[golygu | golygu cod]

Erbyn hyn mae diffeithdiro (desertification) yn broblem byd-eang. Oherwydd erydiad ac amaethyddiaeth gor-ddyfal, mae anialwch yn ehangu pob blwyddyn, yn bennaf yng ngogledd Affrica (y Sahel), ond hefyd yn ardaloedd eraill yn Affrica, canolbarth a de Asia, Awstralia, gogledd a de America a de Ewrop.

Deg anialwch ehangaf y byd[golygu | golygu cod]

  1. 8,700,000 km² - Sahara (Affrica)
  2. 1,560,000 km² - Anialwch Awstralia
  3. 1,300,000 km² - Anialwch Arabia (Asia)
  4. 1,040,000 km² - Gobi (Asia)
  5.   715,000 km² - Kalahari (Affrica)
  6.   676,000 km² - Patagonia (De America)
  7.   330,000 km² - Takla Makan (Asia)
  8.   312,000 km² - Sonora (Gogledd America)
  9.   273,000 km² - Karakum (Asia)
  10.   273,000 km² - Tharr a Cholistan (Asia)
Chwiliwch am anialwch
yn Wiciadur.
Chwiliwch am anialwch
yn Wiciadur.