Sonora
| Math | talaith Mecsico |
|---|---|
| Prifddinas | Hermosillo |
| Poblogaeth | 2,850,330 |
| Sefydlwyd | |
| Pennaeth llywodraeth | Alfonso Durazo Montaño |
| Cylchfa amser | UTC−07:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | Northern Mexico |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 179,503 km² |
| Uwch y môr | 592 metr |
| Yn ffinio gyda | Chihuahua, Arizona, Mecsico Newydd, Baja California |
| Cyfesurynnau | 29.83°N 110.95°W |
| Cod post | 83-85 |
| MX-SON | |
| Gwleidyddiaeth | |
| Corff deddfwriaethol | Congress of Sonora |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Governor of Sonora |
| Pennaeth y Llywodraeth | Alfonso Durazo Montaño |
![]() | |
Un o 31 talaith ffederal Mecsico, sy'n gorwedd yng ngogledd-orllewin y wlad am y ffin â'r Unol Daleithiau, yw Sonora. Mae ganddi boblogaeth o 2,839,989 (2000).
Golchir arfordir 1,208 km Sonora gan Môr Cortez, sy'n rhan o Gwlff California, sy'n ei chysylltu â'r Cefnfor Tawel i'r de. Mae Sonora yn ffinio â thalaith Chihuahua i'r dwyrain, Sinaloa i'r de a Baja California i'r gogledd-orllewin; i'r gogledd mae ganddi ffin hir ag Arizona ac un llai â New Mexico yn yr Unol Daleithiau. Dros Gwlff California i'r gorllewin mae ganddi ffin forol â Baja California Sur. Sonora yw'r dalaith ail fwyaf ym Mecsico (184,934 km²), gyda 9.2% o arwynebedd y wlad.
Y prif dirweddau yw: Sierra Madre Occidental, Mynyddoedd a Dyffrynnoedd Parallel, Anialwch Sonora, ac arfordir Gwlff California. Cadwyn y Sierra Madre oedd un o gadarnleoedd Geronimo ac Apache Chiricahua eraill yn y 1880au.

Prif ddinasoedd
[golygu | golygu cod]- Hermosillo 707,890
- Ciudad Obregón 375,800
- Nogales 290,759
- Guaymas 101,505 (heb gynnwys Empalme)
- Navojoa 163,312
- San Luis Río Colorado 138,796
