Chiricahua

Oddi ar Wicipedia
Y llwythau Apache tua'r 18fed ganrif (Ch - Chiricahua, WA - Apache Gorllewinol, N - Navajo, M - Mescalero, J - Jicarilla, L - Lipan, Pl - Apache'r Gwastadeddau
Erthygl am y bobl yw hon. Am ystyron eraill gweler Chiricahua (gwahaniaethu).

Grŵp o fandiau cysylltiedig â phobl Apache a oedd yn byw ar un adeg yn yr hyn sydd heddiw yn New Mexico ac Arizona yn yr Unol Daleithiau a Sonora a Chihuahua ym Mecsico yw'r Chiricahua (hefyd Apaches Chiricahua, Chiricagui, Apaches de Chiricahui, Chiricahues, Chilicague, Chilecagez, Chiricagua). Dyma'r pwysicaf o'r grwpiau Apache a wrthsafodd y trefedigaethwyr 'gwyn' yr Unol Daleithiau yn ail hanner y 19eg ganrif. Siaradent yr iaith Chiricahua.

Hanes[golygu | golygu cod]

Dan arweiniad y pennaeth Cochise ac yn ddiweddarach dan Goyaałé (Geronimo), y Chiricahua oedd yr olaf o'r grwpiau Apache i wrthsefyll rheolaeth llywodraeth yr Unol Daleithiau dros y de-orllewin. Yn 1852, llofnodwyd cytundeb rhwng yr UD a'r Chiricahua. Ond yn ystod y 1850au, symudodd nifer gynyddol o fwyngloddwyr ac ymsefydlwyr o ddwyrain UDA i mewn i Diriogaeth Chiricahua, a bu lleihad yn nifer y boblogaeth Apache oherwydd afiechydon newydd, llwgu ac ymosodiadau. O ganlyniad, yn 1861, dechreuodd y Chiricahua ymladd yn erbyn yr Americanwyr ar ôl i'r pennaeth Mangas Coloradas gael ei chwipio'n sarhaus gan fwyngloddwyr a lladd perthnasau Cochise gan fyddin yr UD. Yn 1863, lladdwyd Mangas Coloradas gan fyddin yr UD pan geisiodd drefnu amodau heddwch rhwng ei bobl a llwyodraeth UDA. Ar ôl dod ymlaen, yn agored, er mwyn trafod heddwch cafodd ei gipio a'i ladd gan rai o'r milwyr y noson honno. Dyma reswm arall am ledaenu'r anghydfod rhwng y ddwy ochr, a fyddai'n gweld rhyfeloedd parhaol am y 25 mlynedd nesaf. Un o'u cadarnleoedd pennaf oedd Mynyddoedd Chiricahua, yn ne-ddwyrain Arizona; heddiw mae rhan o'r tir sanctaidd hwnnw wedi ei droi yn barc cenedlaethol.

Merch Chiricahua yn 1898

Yn 1872, sedfydlwyd y Chiricahua Apache Reservation, ond ni fu'n agor ond am fwy na phedair blynedd. Erbyn 1877 roedd y mwyafrif o'r Apache wedi cael eu gorfodi i aros ar ddau reservation mawr yn Arizona. Yn 1883, ymladdodd y Chiricahua dan Geronimo ac eraill yng ngogledd Mecsico, gan ddychwelyd i'r reservation y flwyddyn ganlynol. Ond torrodd Geronimo a grŵp bychan o ryfelwyr, merched a phlant - Chiricahua yn bennaf - yn rhydd eto a sefydlodd noddfa ym mynyddoedd y Sierra Madre, ym Mecsico. Ar ôl i'r grwp gael eu hel gan dros 5,000 o filwyr Americanaidd a thua 2,000 o filwyr Mecsico, bu raid iddynt ildio o'r diwedd yn 1886 a daeth y Rhyfeloedd Apache i ben.

Cafodd y Chiricahua eu halltudio i Florida, Alabama, ac Oklahoma, yn groes i'r termau heddwch gwreiddiol a sawl addewid. Roedd y daith drên hir i'r 434 Apache Chiricahua olaf a symudwyd i Florida, gyda Geronimo yn eu plith, yn uffernol: caewyd y drysau a'r ffenestri tryw'r holl amser, er gwaethaf y gwres llethol ac absenoldeb toiledau.

O'r diwedd cafodd y mwyafrif eu symud i wersyll filwrol Fort Sill yn Oklahoma tan 1913, heb hawl i'w adael, cyn iddynt gael caniatâd i ddychwelyd i Arizona. Erbyn hynny roedd eu nifer wedi lleihau yn sylweddol oherwydd afiechydon, yn arbennig yn Florida lle cawsant eu rhoi ar reservation ar ymyl cors a bu farw llawer o falaria. Gorfodwyd pob plentyn dros 11 oed i fynd i ffwrdd i ysgol breswyl arbennig lle torrwyd eu gwallt, gwisgwyd hwy mewn dillad gorllewinol a rhoddwyd enwau Americanaidd iddynt.

Mae rhai Chiricahua yn dal i fyw yn Oklahoma neu ar reservation y Mescalero yn Mecsico Newydd heddiw. Ychydig iawn ohonyn nhw sy'n byw yn eu hen fro yn Arizona.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

Geronimo
  • Castetter, Edward F.; & Opler, Morris E. (1936). The ethnobiology of the Chiricahua and Mescalero Apache: The use of plants for foods, beverages and narcotics. Ethnobiological studies in the American Southwest, (Vol. 3); Biological series (Vol. 4, No. 5); Bulletin, University of New Mexico (No. 297). Albuquerque: University of New Mexico Press.
  • Hoijer, Harry; & Opler, Morris E. (1938). Chiricahua and Mescalero Apache texts. The University of Chicago publications in anthropology; Linguistic series. Chicago: University of Chicago Press. (Adargraffiad 1964, Chicago: University of Chicago Press; 1970, Chicago: University of Chicago Press; 1980, gan H. Hoijer, New York: AMS Press, ISBN 0-404-15783-1).
  • Opler, Morris E. (1935). The concept of supernatural power among the Chiricahua and Mescalero Apaches. American Anthropologist, 37 (1), 65-70.
  • Opler, Morris E. (1936). The kinship systems of the Southern Athabaskan-speaking tribes. American Anthropologist, 38 (4), 620-633.
  • Opler, Morris E. (1937). An outline of Chiricahua Apache social organization. Yn F. Egan (Ed.), Social anthropology of North American tribes (tt. 171-239). Chicago: University of Chicago Press.
  • Opler, Morris E. (1938). A Chiricahua Apache's account of the Geronimo campaign of 1886. New Mexico Historical Review, 13 (4), 360-386.
  • Opler, Morris E. (1941). An Apache life-way: The economic, social, and religious institutions of the Chiricahua Indians. Chicago: The University of Chicago Press. (Adargraffiad 1962, Chicago: University of Chicago Press; 1965, Efrog Newydd: Cooper Square Publishers; 1965, Chicago: University of Chicago Press; 1994, Lincoln: University of Nebraska Press, ISBN 0-8032-8610-4).
  • Opler, Morris E. (1942). The identity of the Apache Mansos. American Anthropologist, 44 (1), 725.
  • Opler, Morris E. (1946). Chiricahua Apache material relating to sorcery. Primitive Man, 19 (3-4), 81-92.
  • Opler, Morris E. (1946). Mountain spirits of the Chiricahua Apache. Masterkey, 20 (4), 125-131.
  • Opler, Morris E. (1947). Notes on Chiricahua Apache culture, I: Supernatural power and the shaman. Primitive Man, 20 (1-2), 1-14.
  • Opler, Morris E. (1983). Chiricahua Apache. Yn A. Ortiz (gol.), Southwest (tt. 401-418). Handbook of North American Indians (Vol. 10). Washington, D.C.: Smithsonian Institution.
  • Opler, Morris E.; & French, David H. (1941). Myths and tales of the Chiricahua Apache Indians. Memoirs of the American folk-lore society, (Vol. 37). Efrog Newydd: American Folk-lore Society. (1969, Efrog Newydd: Kraus Reprint Co.; 1976, Millwood, NY: Kraus Reprint Co.; 1994 Lincoln: University of Nebraska Press. ISBN 0-8032-8602-3).
  • Opler, Morris E.; & Hoijer, Harry. (1940). The raid and war-path language of the Chiricahua Apache. American Anthropologist, 42 (4), 617-634.
  • David Roberts, Once they moved like the wind[:] Cochise, Geronimo and the Apache Wars (Simon & Schuster, 1994; argraffiad newydd, Pimlico, 1998) ISBN 0-7126-6628-1
  • Schroeder, Albert H. (1974). A study of the Apache Indians: Parts IV and V. Apache Indians (No. 4), American Indian ethnohistory, Indians of the Southwest. Efrog Newydd: Garland.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]