Andrew Boorde

Oddi ar Wicipedia
Andrew Boorde
Ganwyd1490 Edit this on Wikidata
Sussex Edit this on Wikidata
Bu farwEbrill 1549 Edit this on Wikidata
Carchar y Fflyd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Lloegr Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethfforiwr, meddyg Edit this on Wikidata

Meddyg a theithiwr o Sais oedd Andrew Boorde (neu Borde; tua 1490Ebrill 1549) a ysgrifennodd sawl llyfr yn yr 16g, gan gynnwys y teithlyfr cyntaf yn yr iaith Saesneg am Ewrop.

Ganed yn Borde Hill ger pentref Cuckfield, Sussex. Astudiodd ym Mhrifysgol Rhydychen ac ymunodd ag urdd y Carthwsiaid yn ifanc. Penodwyd yn esgob cynorthwyol yn Chichester ym 1521, ond ym 1529 fe'i ryddhawyd o'i ddiofrydau mynachaidd, am nad oedd yn medru ymdopi â bywyd y dyn ffyddiog.[1]

Aeth ar grwydr yn Ewrop gan ymweld â phrifysgolion Orléans, Poitiers, Toulouse, Montpellier, a Wittenberg, ac ar bererindod i Rufain a Santiago de Compostela. Ym 1534 roedd yn ôl yn Lloegr yn gweithio yn feddyg yn y Charterhouse yn Llundain. Mae'n debyg i Thomas Cromwell anfon Boorde yn ôl i'r cyfandir i gasglu barnau'r Ewropeaid am bolisïau'r Brenin Harri VIII. Fodd bynnag, ym 1536 mae cofnod ohono yn astudio meddygaeth yn Glasgow.[1]

Teithiodd ar draws Ewrop eto tua 1538, ac ymwelodd â Jerwsalem hefyd. Ymsefydlodd am gyfnod ym Montpellier ac mae'n debyg iddo ddychwelyd i Loegr ym 1542. Cyhoeddodd hefyd A Dyetary of Helth (tua 1542) a Breviary (1547). Ysgrifennodd The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge (1548), cyfrol sydd yn cynnwys disgrifiadau o Loegr, Cymru, yr Alban, Iwerddon, Ffrainc, Sbaen, Fflandrys, yr Almaen, Denmarc, yr Eidal, Groeg, a Jerwsalem. Cafodd ei garcharu ar ddiwedd ei oes, o bosib am lochesu puteiniaid yn ei dŷ yng Nghaerwynt. Bu farw yng Ngharchar y Fflyd yn Llundain.[1]

Yn The Fyrst Boke of the Introduction of Knowledge mae cerdd sydd yn cynnwys sawl stereoteip ffafriol ac anffafriol o'r Cymry:[2]

I Am a Welshman, and do dwel in Wales,
I haue loued to serche boudgets, & looke in males ;
I loue not to labour, nor to delue nor to dyg ;
My fyngers be lymed luke a lyme twyg ;
And wherby ryches I do not greatly set,
Syth all hys fysshe that commeth to the net.
I am a gentylman, and come of brutes blood ;
My name is, ap Ryce, ap Dauy, ap Flood.
I loue our Lady, for I am of hyr kynne ;
He that doth not loue hyr, I be-shrew his chynne.
My kyndred is ap hoby, ap Ienkin, ap goffe.
Bycause I do go barlegged, I do cach the coffe ;
And if I do go barlegged, it is for no pryde ;
I haue a gray cote, my body for to hyde.
I do loue cawse boby, good rosted chese ;
And swyshe swashe metheglyn I take for my fees ;
And yf I haue my harpe, I care for no more ;
It is my treasure, I do kepe it in store ;
For my harpe is made of a good mares skyn,
The stringes be of horse heare, it maketh a good din ;
My songe, and my voyce, and my harpe doth agree,
Muche lyke the hussyng of a homble be ;
Yet in my country I do make good pastyme,
In tellyng of prophyces whyche be not in ryme.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Andrew Boorde. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Hydref 2020.
  2. F. J. Furnivall (gol.), Andrew Boorde's Introduction and Dyetary, with Barnes in the Defence of the Berde (Llundain: Early English Text Society, 1870), tt. 125–6