Andrés Segovia
Andrés Segovia | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Andrés Segovia Torres ![]() 21 Chwefror 1893 ![]() Linares ![]() |
Bu farw | 3 Mehefin 1987 ![]() o trawiad ar y galon ![]() Madrid ![]() |
Dinasyddiaeth | Sbaen ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | athro cerdd, cyfansoddwr, gitarydd clasurol ![]() |
Arddull | cerddoriaeth glasurol ![]() |
Priod | Francesca Madriguera i Rodon ![]() |
Plant | Carlos Andrés Segovia ![]() |
Gwobr/au | Uwch-Groes Urdd Isabel la Católica, Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Gwobr Gerdd Léonie Sonning, Medal Aur Cymdeithas y Royal Philharmonic, Dearest Son of Andalusia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Madrid, honorary doctorate of the University of Cadiz, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Santiago de Compostela, doethuriaeth er anrhydedd o Brifysgol Granada, Medal Aur am Deilyngdod yn y Celfyddydau (Sbaen), Ernst von Siemens Music Prize, Gran Cruz de la Orden Civil de la Beneficencia, Medal Teilyndod am Deithio, Medal Teilyndod am Deithio, Uwch-Groes Urdd Sifil Alfonso X, Commandeur des Arts et des Lettres ![]() |
Gitarydd clasurol o Sbaen oedd Andrés Torres Segovia, Marcwis 1af Salobreña (21 Chwefror 1893 - 2 Mehefin 1987).[1] Ystyrir ef yn dad y mudiad ceddoriaeth gitâr clasurol modern.
Ganed Andrés Segovia yn Linares, Jaén yn Sbaen. Yn fachgen ifanc fe'i danfonwyd ef i fyw gyda'i ewyrth (a'i fodryb) Eduardo a María, a drefnodd wersi git^r iddo, a dywedodd ef ei hun iddo ddechrau canu'r gitâr yn chwech oed. Yn ei arddegau, symudodd ei ewyrth i Granada er mwyn iddo gael addysg arbenigol, ac yno bu'n astudio'r gitâr. Dywed i'r Alhambra gael dylanwad mawr arno. Rhoddodd ei berfformiad cyntaf yn Madrid pan oedd yn 16 oed[2] yn 1909 a pharhaodd i berfformio hyd cyrraedd ei 80au.[3]
Yn 1981 gwnaeth y Brenin Juan Carlos I ef yn Farcwis Salobreña. Bu farw ym Madrid yn 94 oed.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Stevenson, Joseph. [Allmusic} "Andrés Segovia Biography"] Check
|url=
value (help). AllMusic. - ↑ Secrets From The Masters (Edited by Don Menn) - (Published by GPI Books) (ISBN 0-87930-260-7) - tud. 238 Segovia quote: "The first concert I gave was in Granada. Then I had to give it in Seville about two months later."
- ↑ Castro, Iván A. (Rhagfyr 2006). 100 Hispanics you should know. Libraries Unlimited. t. 260. ISBN 978-1-59158-327-1. Cyrchwyd 23 Gorffennaf 2011.